Big Brother | |
---|---|
Logo rhyngwladol Big Brother | |
Enw amgen | Secret Story VIP Big Brother Teen Big Brother Bigg Boss Ultimate Big Brother |
Genre | Adloniant Teledu |
Crëwyd gan | John de Mol Jr. |
Datblygwyd gan | John de Mol Jr. Endemol |
Cyfansoddwr/wyr | Vanacore Music |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Dosbarthwr | Endemol |
Rhyddhau | |
Rhwydwaith gwreiddiol | Veronica |
Darlledwyd yn wreiddiol | 16 Medi 1999 | – presennol
Dolenni allanol | |
Big Brother ar Endemol |
Mae Big Brother ("Y Brawd Mawr") yn un o'r rhaglenni teledu realiti mwyaf poblogaidd yn y byd. Ers y gyfres gyntaf ar y sianel deledu Veronica yn yr Iseldiroedd ym 1999 mae wedi lledaenu i bedwar ban y byd, yn cynnwys Prydain lle gwelwyd y gyfres gyntaf yno yn 2000. Gwelir fersiynau o'r sioe mewn bron 70 gwlad. Daw enw'r sioe o nofel 1949 George Orwell, Nineteen Eighty-Four.
Yr holl syniad yw bod grŵp o bobl cyffredin o ras, liw, rhyw a rhywioldeb gwahanol 12 yn draddiadol yn cael eu dewis gan dîm o gynhyrchwyr a seicologwyr i gyd-fyw mewn tŷ arbennig am nifer o wythnosau 10 yn draddiadol mewn ymgais i ennill gwobr. Mae eu holl weithredoedd yn cael eu ffilmio a'u darlledu i'r cyhoedd eu gwylio. Yn wythnosol mae rhaid i bob ‘housemate’ sef aelod o’r tŷ enwebu dau berson. Mae'r dau berson neu fwy sydd â’r nifer fwyaf o enwebiadau yn wynebu’r bleidlais gyhoeddus ac yna mae’r un sy’n derbyn y mwyaf o bleidleisiau’r cyhoedd yn cael ei daflu mas mewn ‘eviction’. Yr enillydd yw'r person olaf yn y tŷ ac felly maent yn ennill y wobr, sef swm sylweddol o arian ym mhob gwlad heblaw am Ffrainc a Chanada lle maent yn ennill y tŷ ei hun.
Yng ngwledydd Prydain dangoswyd y rhaglen yn wreiddiol ar Channel 4, a'i chynhyrchu gan Endemol. Yn y gyfres cyntaf yng ngwledydd Prydain yn 2000 roedd y tŷ wedi’i leoli yn ne Llundain lle arhosodd am ddwy flynedd. Yn y drydedd gyfres symudodd y tŷ i Elstree Studios lle mae wedi aros o hynny ‘mlaen. Roedd Davina McCall wedi cyflwyno'r rhaglen o’r dechrau gan gynnwys y dadfeddiant (eviction) wythnosol.
Yn 2010, gwelwyd y gyfres olaf o Big Brother yn cael ei darlledu ar Sianel Pedwar wrth i gytundeb y sianel gyda chwmni Endemol ddod i ben. Fodd bynnag, yn fuan wedi diwedd y gyfres cyhoeddodd Channel 5 eu bod wedi prynu'r hawliau darlledu i'r rhaglen ac y byddai cyfres newydd yn dechrau yn 2011. Dechreuodd y gyfres honno a oedd yn cynnwys nifer o enwogion yn y tŷ ar 18 Awst 2011. Yn 2018 cyhoeddwyd fod Channel 5 am beidio adnewyddu'r rhaglen a darlledwyd y gyfres olaf y flwyddyn honno gyda'r sioe derfynol yn cael ei ddangos ar 5 Tachwedd 2018.
Rhanbarth/Gwlad | Enw Mae enwau yn cyfieithu fel Y Brawd Mawr, oddieithr penodedig. |
Sianel |
---|---|---|
Affrica (Angola, Botswana, Ghana, Cenia, Malawi, Namibia, Nigeria, De Affrica, Tansania, Wganda, Sambia a Simbabwe) |
Big Brother Africa ("Y Brawd Mawr Affrica") |
M-Net |
Albania | Big Brother | Top Channel |
Yr Almaen | Big Brother | RTL RTL II Tele5 Premiere 9Live |
Yr Ariannin | Gran Hermano | Telefe |
Awstralia | Big Brother Australia ("Y Brawd Mawr Awstralia") |
Network Ten |
Gwlad Belg | Big Brother | Kanaal Twee |
Brasil | Big Brother Brasil ("Y Brawd Mawr Brasil") |
Rede Globo |
Bwlgaria | Big Brother | NTV |
Canada | Loft Story ("Stori Croglofft") |
TQS |
Colombia | Gran Hermano | Rede Globo |
Croatia | Big Brother | RTL |
Denmarc | Big Brother | TV Danmark |
Y Dwyrain Canol (Bahrain, Yr Aifft, Irac, Iorddonen, Cowait, Libanus, Oman, Sawdi Arabia, Somalia, Syria a Twnisia) |
الرئيس (Al'Rais) ("Y Meistr") |
MBC |
Ecwador | Gran Hermano | Ecuavisa |
Yr Eidal | Grande Fratello | Canale 5 |
Y Ffindir | Big Brother Suomi ("Y Brawd Mawr Y Ffindir") |
Sub |
Ffrainc | Loft Story ("Stori Croglofft") |
M6 |
Gorllewin Balcanau (Bosnia-Hertsegofina, Montenegro a Serbia) |
Veliki brat | Pink BH (Bosnia-Hertsegofina) Pink M (Montenegro) B92 (Serbia) |
Gweriniaeth Tsiec | Big Brother | TV NOVA |
Gwlad Groeg | Big Brother | ANT1 |
Gwlad Tai | Big Brother Thailand ("Y Brawd Mawr Gwlad Tai") |
iTV |
Gwlad Pwyl | Big Brother | TVN (2001-2002) TV4 (2007-2008) Polsat (2010- nadal) |
Hwngari | Big Brother Nagy Testvér ("Y Brawd Mawr Y Brawd Mawr") |
TV2 |
India | Bigg Boss ("Meistr Mawr") |
SET |
Israel | Ha'Ach Ha'Gadol | Channel 2 |
Yr Iseldiroedd | Big Brother | Veronica (1999-2000) Yorin (2001-2002) Talpa (2005-2006) |
Llychlyn (Norwy a Sweden) |
Big Brother | Kanal5 (Sweden) TVN (Norwy) |
Mecsico | Big Brother México | Televisa |
Nigeria | Big Brother Nigeria | M-Net |
Norwy | Big Brother Norge ("Y Brawd Mawr Norwy") |
TVNorge |
Pilipinas | Pinoy Big Brother | ABS-CBN |
Portiwgal | Big Brother | TVI |
Rwmania | Big Brother | Prima TV |
Rwsia | большой брат (Bol'shoy Brat) | TNT |
Slofacia | Big Brother Súboj | TV Markíza |
Slofenia | Big Brother | Kanal A |
De Affrica | Big Brother South Africa ("Y Brawd Mawr De Affrica") |
M-Net |
Sbaen | Gran Hermano | Telecinco |
Sweden | Big Brother Sverige ("Y Brawd Mawr Sweden") |
Kanal5 |
Y Swistir | Big Brother Schweiz ("Y Brawd Mawr Y Swistir") |
TV3 |
Rhanbarth Tawel (Tsile, Ecwador a Pheriw) |
Gran Hermano del Pacífico ("Y Brawd Mawr Y Tawel") |
Telesistema (Ecwador) RedTV (Tsile) ATV (Periw) |
Y Deyrnas Unedig | Big Brother | Channel 4 |
Unol Daleithiau | Big Brother | CBS |