Big Spender

Big Spender
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
Rhan oSweet Charity Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Label recordioUnited Artists Records Edit this on Wikidata
Genrejazz Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrNorman Newell Edit this on Wikidata
CyfansoddwrCy Coleman Edit this on Wikidata

Cân a ysgrifennwyd gan Cy Coleman a Dorothy Fields ar gyfer y sioe gerdd Sweet Charity yw "Big Spender". Bu'r gân yn llwyddiannus iawn i'r gantores Shirley Bassey pan gyrhaeddodd rhif 21 yn y siart Brydeinig ym mis Rhagfyr 1967.

Fersiynau gwahanol o'r gân

[golygu | golygu cod]

Mae sawl artist gwahanol wedi perfformio'r gân "Big Spender", gan gynnwys y grŵp Queen, a berfformiodd y gân mor bell yn ôl ag ar ddechrau'r 1970au. Perfformiodd y grŵp y gân hefyd yn fyw yn Stadiwm Wembley ar 12 Gorffennaf 1986. Roedd perfformiad Queen yn arwyddocaol am ei fod wedi gweddnewid y gân o'i naws sioe gerdd gwreiddiol i fod yn llawer mwy o gân roc.

Mae Shirley Bassey wedi perfformio'r gân droeon gan gynnwys ar benblwydd y Tywysog Philip yn 80 oed. Perfformiodd y gân hefyd yng Ngwyl Glastonbury yn 2007 hefyd.