Term generig yw Bijinga (Siapaneg: 美人画 bijinga, hefyd bijin-ga) am ddarluniau o ferched hardd yng nghelf Siapan, yn enwedig y printiadau bloc pren yn yr arddull ukiyo-e, o ddiwedd yr 17g ymlaen. Mae'n derm sy'n cael ei ddefnyddio weithiau i ddisgrifio cyfryngau cyfoes, yn cynnwys lluniau ffotograff, cyn belled a'u bod yn cydymffurfio â syniadau clasurol am bortreadu merched; yn gwisgo kimono, er enghraifft.
Cynhyrchodd y mwyafrif llethol o artistiad ukiyo-e luniau bijinga, am fod merched hardd yn un o themau canolog y genre. Ond mae rhai arlunwyr ukiyo-e ben-ag-ysgwydd yn uwch na'r gweddill, ac ystyrir Utamaro, Suzuki Harunobu, Toyohara Chikanobu, a Torii Kiyonaga fel arloeswyr a meistri yn y dull hwn.
Mae darluniau bijinga yn rhoi'r pwyslais ar y wyneb gyda'r gwrthrych yn troi ei phen fel petasai'n edrych ar rywbeth neu'n synfyfyrio, fel rheol. Actoresau, geishas, neu "ferched siopau te" (h.y. puteiniaid) oedd y modelau fel arfer, yn perthyn i'r "Byd Symudliw" ffasiynol y trefi a dinasoedd, fel Edo a Kyoto.