Billy Bragg | |
---|---|
Bragg yn Mai 2010 | |
Y Cefndir | |
Enw (ar enedigaeth) | Stephen William Bragg |
Ganwyd | Barking, Essex, Lloegr | 20 Rhagfyr 1957
Math o Gerddoriaeth | Pync-gwerin,[1] Gwerin, roc amgen, pync-gwerin |
Gwaith | Canwr-gyfansoddwr, cerddor, awdur |
Offeryn/nau | Llais, gitar |
Cyfnod perfformio | 1977–presennol |
Label | Charisma Records, Go! Discs, Elektra Records, Cooking Vinyl |
Perff'au eraill | The Red Stars, The Blokes, Riff-Raff, Wilco |
Gwefan | billybragg.co.uk |
Canwr-gyfansoddwr a gweithredaethwr adain-chwith o Sais yw Stephen William "Billy" Bragg (ganwyd 20 Rhagfyr 1957, yn Barking, Essex, Lloegr).[2]
Mae ei gerddoriaeth yn cyfuno elfenau o pync-roc, cerddoriaeth gwerin a chaneuon protest. Mae geiriau ei ganeuon yn pontio themau gwleidyddol a rhamantaidd.
Cychwynodd ei yrfa fel canwr pan ffurfiodd fand pync-roc yn 1977, ond daeth i amlygrwydd mwy eang wedi i John Peel chwarae ei ganeuon ar BBC Radio 1.[3] Mae pwyslais ei gerddoriaeth ar roi cychwyn ar newid ac ysbrydoli'r genhedlaeth iau i gymeryd rhan mewn achosion gweithredaeth.[4]
Mae Bragg yn cefnogi annibyniaeth i'r Alban a Chymru [5]