Enw llawn | Billy McBryde | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 24 Hydref 1996 | ||
Man geni | Caerfyrddin | ||
Taldra | 177 cm (5 tr 10 mod) | ||
Pwysau | 93 kg (14 st 9 lb) | ||
Ysgol U. | Coleg Sir Gar | ||
Perthnasau nodedig | Robin McBryde |
Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru yw Billy McBryde (ganwyd 24 Hydref 1996). Ei safle arferol yw maswr, er ei fod wedi chwarae fel canolwr hefyd, ac mae'n chwarae i'r Scarlets a Chlwb Rygbi Llanelli . Ei dad yw'r cyn-fachwr a hyfforddwr tîm Cymru, Robin McBryde .
Gwnaeth McBryde ei ymddangosiad cyntaf yn 18 oed ar gyfer Llanelli, fel eilydd yn erbyn Cross Keys Flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, chwaraeodd ei gêm gyntaf gyda'r Scarlets, fe eilydd yng Cwpan Eingl-Gymreig lle drechodd y Scarlets ei gwerthwynebwr Caerfaddon o 44 pwynt i 21.[1]
Fe'i dewiswyd i dîm Dan 20 Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Dan 20 y Chwe Gwlad 2016. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y gêm agoriadol yn erbyn yr Alban. Daeth McBryde ymlaen yn y 79ain munud, a sgoriodd gic gosb ar unwaith i ennill y gêm i Gymru.[2] Cafodd ei ddewis eto ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd 2016, a gwnaeth 3 ymddangosiad pellach i'r tîm Dan 20.