Billy Meredith | |
---|---|
Ganwyd | 30 Gorffennaf 1874 Y Waun |
Bu farw | 19 Ebrill 1958, 17 Ebrill 1958 Manceinion |
Man preswyl | Y Waun |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Taldra | 175 centimetr |
Gwobr/au | National Football Museum Hall of Fame |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Manchester United F.C., Northwich Victoria F.C., Manchester City F.C., Chirk AAA F.C., Port Vale F.C., Manchester City F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru |
Safle | hanerwr asgell |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gyrfa Ieuenctid | |||
---|---|---|---|
Black Park | |||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1890–1892 | Y Waun | ||
1892–1894 | Northwich Victoria | 11 | (5) |
1894–1906 | Manchester City | 339 | (129) |
1906–1921 | Manchester United | 303 | (35) |
1921–1924 | Manchester City | 28 | (0) |
Cyfanswm | 681 | (169) | |
Tîm Cenedlaethol | |||
1895–1920 | Cymru | 48 | (11[1]) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Cyn bêl-droediwr o Gymro oedd William Henry "Billy" Meredith (30 Gorffennaf 1874 – 19 Ebrill 1958). Roedd yn cael ei ystyried yn un o sêr cyntaf y gamp oherwydd ei berfformiadau i Manchester City a Manchester United[2] a chafodd 48 cap dros Gymru rhwng 1895 a 1920. Meredith yw'r chwaraewr hynaf i ennill cap dros Gymru - pan gamodd i'r maes yn erbyn Lloegr ym 1920 yn 45 mlwydd a 229 diwrnod oed.[3][4]
Chwaraeodd Meredith ran allweddol wrth sefydlu Undeb y Chwaraewyr (Saesneg: Players' Union), rhagflaenydd Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (Saesneg: Professional Footballers' Association (PFA)) ym 1907.[5]
Roedd ei frawd hŷn, Sam, hefyd yn bêl-droediwr proffesiynol - gyda Stoke City a Chymru.[6]
Ganed Meredith yn y Waun ym 1874, yr ieuengaf o 10 o blant. Dilynodd ei dad i bwll glo Parc Du pan oedd yn 12 mlwydd oed er mwyn cael gwaith fel gyrrwr merlod.[7]
Chwaraeodd i dimau ieuenctid Y Waun cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf ym 1890. Llwyddodd i ennill Cwpan Cymru gyda'r Waun ym 1894.[8]
Yn ogystal â chwarae i'r Waun, arwyddodd Meredith gytundeb lled-broffesiynol gyda Northwich Victoria yn yr Ail Adran. Er ennill y tair gêm chwaraeodd Meredith i'r tîm, cafwyd tymor siomedig ym 1893-94 a disgynnodd Victoria o'r Gynghrair.[9][10]
Chwareuodd Meredith dros Wrexham hefyd in 1894.[11]
Roedd perfformiadau Meredith dros Northwich yn ddigon i ddenu sylw sawl clwb yn y Gynghrair Bêl-droed ac arwyddodd i Manchester City fel chwaraewr amatur gan weithio yn y pwll glo a theithio yn ôl ac ymlaen i Fanceinion ar gyfer gemau. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ym mis Tachwedd 1894 pan gollwyd 5-4 yn erbyn Newcastle United a sgoriodd ddwy gôl yn y gêm ddarbi cyntaf rhwng Manchester City a Newton Heath, a aeth ymlaen i gael eu hadnabod fel Manchester United.[12]
Roedd Meredith yn allweddol i'r tîm a llwyddodd i sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf ym 1899 ac ym 1904 rhwydodd unig gôl y gêm wrth i Manchester City drechu Bolton Wanderers yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr; Meredith, felly, oedd y Cymro cyntaf i godi'r tlws.[13]
Sgoriodd naw gôl mewn 36 gêm yn ystod tymor 1904–05 wrth i Manchester City ddod o fewn dau bwynt i'r pencampwyr, Newcastle United ond daeth y tymor i ben mewn ffordd ddadleuol iawn ar ôl colli eu gêm olaf o'r tymor yn erbyn Aston Villa. Honnodd capten Villa, Alex Leake, fod Meredith wedi ceisio ei lwgrwobrwyo i golli'r gêm. Er gwaethaf pledio'n ddieuog cafodd ei wahardd o bêl-droed am flwyddyn.[14]
Ym mis Mai 1906, tra'n dal i fod wedi ei wahardd, ymunodd Meredith â Manchester United gan dderbyn £500 o ffi am arwyddo. Ym 1907-08 roedd yn aelod o dîm United enillodd y Bencampwriaeth am y to cyntaf yn eu hanes[15] a hefyd ennill Tarian Elusennol FA Lloegr (Saesneg: FA Charity Shield) yn 1908 - y flwyddyn gyntaf iddi gael ei chynnal - wrth drechu Queens Park Rangers 4-0 yn Stamford Bridge.
Cipiodd Manchester United y Gwpan unwaith eto ym 1908-09 wrth drechu Bristol City[16] ac roedd yn alweddol i'r tîm enillodd y Bencampwriaeth am yr ail dro yn hanes y clwb ym 1910-11[15] ond erbyn 1912-13 roedd ei berthynas gyda'r clwb yn dechrau gwegian wrth i'r rheolwr newydd, John Bentley, ddewis chwaraewyr ifanc yn lle Meredith.[17]
Yn ystod y Rhyfel Mawr chwaraeodd Meredith fel chwaraewr gwadd i Port Vale yn erbyn Manchester United[18]. Ar 7 Mai 1921, yn 46 mlwydd, 281 diwrnod oed, daeth y chwaraewr hynaf erioed i chwarae dros Manchester United mewn gêm gynghrair yn erbyn Derby County.[19]
Ym 1921 dychwelodd i Manchester City gan chwarae 25 o gemau yn ystod tymor 1921-22 ond prin iawn oedd ei gyfleon wedi hynny. Chwaraeodd ei gêm olaf i Manchester City yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ym 1923-24 yn erbyn Newcastle United. Yn 49 mlwydd a 245 diwrnod oed, daeth y chwaraewr hynaf erioed i gynrychioli Manchester City.[17]
Casglodd Meredith y cyntaf o'i 48 dros Gymru mewn gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Iwerddon ar 16 Mawrth 1895.[20][21]. Chwaraeodd ym mhob un o gemau Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1906-07, y tro cyntaf erioed i Gymru ennill y Bencampwriaeth gan sgorio yn y fuddugoliaeth 3-2 dros Iwerddon[22] ac arwain y tîm yn y fuddugoliaeth 1-0 dros Yr Alban a'r gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Lloegr.[20]
Roedd hefyd yn gapten ar Gymru pan gipiwyd Bencampwriaeth y Pedair Gwlad am yr ail dro erioed ym 1919-20, cystadleuaeth welodd Cymru'n trechu Lloegr am yr eildro yn unig yn hanes y gamp.[20] Y gêm yn erbyn Lloegr oedd ei gap olaf ac yn 45 mlwydd a 229 diwrnod oed, mae'n parhau i fod y chwaraewr hynaf erioed i ennill cap dros Gymru.
Bu farw Meredith yn Withington, Manceinion ym mis Ebrill 1958 yn 83 mlwydd oed. Treuliodd flynyddoedd mewn bedd heb unrhyw garreg ond daeth y PFA, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Manchester City a Manchester United at ei gilydd i osod carreg ar ei fedd yn 2013.[23]. Mae Meredith wedi ei anrhydeddu fel aelod o Oriel Anfarwolion Manchester City[24] ac yn Oriel Anfarwolion Pêl-droed Lloegr.[25]
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)