Merch hudolus a greodd y dewiniaid Gwydion ap Dôn a Math o flodau'r derw, banadl ac erwain, i fod yn wraig i Lleu Llaw Gyffes yw Blodeuwedd. Ceir ei hanes ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, sef Math fab Mathonwy. Cynllwyniodd Blodeuwedd gyda'i chariad Gronw Pebr, arglwydd Penllyn, i ladd Lleu, ac fel cosb cafodd hi ei throi yn dylluan gan Gwydion.
Crëwyd Blodeuwedd gan Gwydion a Math. Aeth i fyw gyda Lleu Llaw Gyffes yn Nhomen y Mur (safle caer Rufeinig ger Trawsfynydd heddiw). Ymhen amser syrthiodd Blodeuwedd mewn cariad â Gronw Pebr, Arglwydd Penllyn a chynlluniodd y ddau sut i gael gwared â Lleu. Gwyddai Blodeuwedd na ellid lladd Lleu fel dyn cyffredin, a holodd ei gyfrinach gan gymryd arni ei bod yn poeni amdano. Dywedodd Lleu wrthi na ellid ei ladd os nad oedd yn gyntaf wedi ymolchi mewn cafn â tho arno ar lan afon, ac wedyn yn sefyll ar un troed ar ymyl y cafn a'r llall ar gefn bwch, a'i tharo â gwaywffon. Roedd rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur y waywffon a hynny adeg gwasanaeth y Sul yn unig.
Adroddodd Blodeuwedd y gyfrinach wrth Gronw a dechreuodd wneud y waywffon. Ymhen blwyddyn yr oedd popeth yn barod. Roedd Blodeuwedd, Lleu a Gronw ar lan Afon Cynfal (ger Ffestiniog heddiw). Gofynnodd Blodeuwedd i Lleu ei hatgoffa sut y safai cyn y gellid ei ladd, a gwnaeth Lleu hyn heb wybod fod Gronw yn cuddio gerllaw.
Taflodd Gronw y waywffon at Lleu a throwyd ef yn eryr a chyda bloedd ofnadwy hedodd i ffwrdd. Yn fuan wedyn priodwyd Gronw Pebr a Blodeuwedd a phan glywodd Gwydion am hyn penderfynodd fynd i weld beth a ddigwyddodd i Lleu.
Gyda chymorth hwch daeth Gwydion o hyd i'w nai yn eistedd ar frigyn uchaf derwen. Meddyliodd ar unwaith mai Lleu oedd yr eryr a dechreuodd adrodd englynion wrtho, sef Englyn Gwydion, nes iddo ddisgyn ar lin Gwydion. Yna trawodd yr aderyn â hudlath gan ddychwelyd Lleu Llaw Gyffes i'w ffurf ei hun, ond yn wael iawn ei wedd.
"Mynnaf ddial y cam a gefais," meddai Gwydion, ac aeth i chwilio am Blodeuwedd. Daliwyd hi wrth Lyn y Morynion a dywedodd Gwydion wrthi, "Ni chei dy ladd, ond cei dy droi yn aderyn ac oherwydd y cam a wnaethost â Lleu ni chei ddangos dy wyneb yn y dydd rhag ofn yr holl adar eraill. Ni cholli dy enw, gelwir di byth yn Blodeuwedd."
A chyda hynny trowyd Blodeuwedd yn dylluan. Bu'n rhaid i Gronw Pebr sefyll fel y gwnaeth Lleu ar lan Afon Cynfal a lladdwyd ef gan Lleu â gwaywffon. Mae carreg a thwll ynddi ar lan yr afon yn dwyn yr enw Llech Gronw.
Ceir peth ansicrwydd ynglŷn â ffurf ac ystyr ei henw. Yn ogystal â'r ffurf gyfarwydd Blodeuwedd (blodau + gwedd), ceir y ffurfiau amgen Blodeufedd (blodeu + medd, 1. "Brenhines y Blodau", 2. diod medd a wneir o flodau?) a Blodeuedd (hen ffurf ar yr enw lluosog "Blodau"). Blodeuwedd yw'r ffurf fwyaf cyffredin o lawer.
Ysgrifennodd Saunders Lewis ddrama adnabyddus o'r enw Blodeuwedd sy'n seiliedig ar y chwedl.
Cynhyrchwyd addasiad ffilm Blodeuwedd gan Ffilmiau Bryngwyn ar gyfer S4C. Fe'i darlledwyd ar 1 Mawrth 1990. Cyfarwyddwr y ffilm oedd Siôn Humphreys ac roedd yn serennu Catherine Tregenna fel Blodeuwedd, Dafydd Emyr fel Gronw Pebr, Guto Roberts fel Gwydion, Llion Williams ac eraill.[1]
Ffilmiwyd Tylluan Wen ym 1997 gan Ffilmiau'r Nant ar gyfer S4C. Addasiad ydyw o nofel Angharad Jones, Y Dylluan Wen, nofel am ferch ifanc nwydus sy'n seiliedig ar gymeriad Blodeuwedd.