Bobby Sands | |
---|---|
Ganwyd | Robert Gerard Sands 9 Mawrth 1954 Rathcoole |
Bu farw | 5 Mai 1981 HM Prison Maze |
Dinasyddiaeth | Gwyddel |
Galwedigaeth | gwleidydd, animeiddiwr |
Swydd | Aelod o 48fed Llywodraeth y DU |
Plaid Wleidyddol | Anti H-Block |
Gwefan | http://www.bobbysandstrust.com/ |
Aelod o'r IRA ac Aelod Seneddol yn San Steffan oedd Robert Gerard "Bobby" Sands (Gwyddeleg: Roibeard Gearóid Ó Seachnasaigh) (9 Mawrth 1954 – 5 Mai 1981). Bu farw o ganlyniad i streic newyn yng ngharchar y 'Maze' (neu Long Kesh) yng Ngogledd Iwerddon, ble roedd yn garcharor yn dilyn cael ei ddedfrydu'n euog o fod a dryll yn ei feddiant.
Roedd Bobby Sands yn arweinydd Streic Newyn 1981; roedd y gweriniaethwyr yn ceisio annog yr Awdurdodau i roi iddynt hawliau arbennig (Statws Categori Arbennig, Special Category Status) ac fel carcharorion gwleidyddol.
O ganlyniad i'w farwolaeth yn y carchar, ymunodd cannoedd â rhengoedd yr IRA a chafwyd cydymdeimlad cryf i'w achos ar ddwy ochor i Fôr Iwerydd.
Crëwyd murlun mawr ar fur swyddfa Sinn Féin yn y Falls Road, Belffast i'w goffa a cheir "Rue Bobby Sands" ym Mharis.[1]
Cyfansoddodd y canwr Cymreig Meic Stevens y gân 'Bobby Sands' er cof amdano, sydd ar gael ar yr LP Nos Du, Nos Da (1982).
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Frank Maguire |
Aelod Seneddol dros Fermanagh a De Tyrone 1981 |
Olynydd: Owen Carron |
Rhagflaenydd: Stephen Dorrell |
Baban y Tŷ 1981 |
Olynydd: Stephen Dorrell |