Math | proses |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tuedd o fewn cymdogaethau trefol yw boneddigeiddio lle mae prisiau tai yn codi fel ag i ddadleoli teuluoedd dosbarth gweithiol neu deuluoedd incwm-isel a busnesau bychain.[1] Mae'n bwnc llosg o fewn cynllunio trefol.[2]
Mae boneddigeiddio'n digwydd pan fo pobl ddosbarth canol yn symud i mewn i ardal a fu gynt yn gymharol dlawd gan newid ei chymeriad. Mae'n daten boeth ym maes cynllunio trefol gan fod y newid a welir yn un sydyn ac anaturiol, ac mae datrys y broblem yn sialens i nifer o gymdogaethau canol dinas mewn gwledydd datblygedig.[3] Y duedd sy'n groes i foneddigeiddio yw tlodi cefn gwlad (neu drefol).[4]