Brennan Johnson | |
---|---|
![]() Johnson in 2022 | |
Ganwyd | Brennan Price Johnson ![]() 23 Mai 2001 ![]() Nottingham ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | pêl-droediwr ![]() |
Taldra | 186 centimetr ![]() |
Tad | David Johnson ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Nottingham Forest F.C., Lincoln City F.C., Tottenham Hotspur F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ![]() |
Safle | blaenwr, asgellwr ![]() |
Gwlad chwaraeon | Lloegr, Cymru ![]() |
Mae Brennan Price Johnson (23 Mai 2001, Nottingham, Lloegr) yn weithiwr proffesiynol pêl-droed sy'n chwarae fel ymosodwr yn Tottenham Hotspur a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.
Ar ôl mynd i mewn i academi Nottingham Forest yn wyth oed, gwnaeth Johnson ei ymddangosiad cyntaf yn ddeunaw oed, gan ymddangos gyda’r clwb ar 3 Awst 2019 fel eilydd yn yr 88fed munud mewn colled 2-1 i West Bromwich Albion ar ddiwrnod cyntaf y tymor. [1]
Ar 25 Medi 2020, ymunodd Johnson â Lincoln City ar fenthyciad un tymor.[2] Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, byddai'n gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Lincoln, gan ddod oddi ar y fainc yn erbyn Charlton Athletic.[3] Sgoriodd ei gôl broffesiynol gyntaf yn erbyn Plymouth Argyle F.C., gyda pheniad agos.[4] Ym mis Ebrill 2021, sgoriodd Johnson hattrick cyntaf ei yrfa mewn gêm yn erbyn MK Dons, gan gymryd dim ond 11 munud i gyflawni'r gamp hon.[5]
Mae Johnson yn gymwys i gynrychioli Lloegr, Jamaica a Chymru yn rhyngwladol. Dechreuodd chwarae gyda Lloegr, cyn symud i Gymru yn 2018. Ym mis Medi 2020, galwyd Johnson am y tro cyntaf i dîm Cymru.[6] Mewn cyfweliad dywedodd ei fod yn falch iddo ddewis chwarae i Gymru gan lwyddo i wneud beth fethodd ei dad wneud mewn gyrfa ugain mlynedd, sef chwarae pêl-droed rygnwladol. Nododd, “Roedd fy nhad bob amser yn canmol chwarae dros Gymru,” meddai Johnson, a enillodd gapiau Lloegr ar lefel dan-16 a dan-17. Esboniodd hefyd bod teimlad yng ngharfan Cymru yn "agos" ac yn "gyfeillgar".[7]
Sgoriodd Johnson yn ei gêm gyntad i dîm dan 19 oed Cymru mewn gêm fuddugol i Gymru ar y Cae Ras yn Wrecsam a hynny yn erbyn Gwlad Belg ym mis Medi 2019. Rhwydodd Johnson y gôl gyntaf i Gymru yn y gêm a'i gôl gyntaf ef i Gymru wedi pum munud. Bu iddo wedyn sgorio ei ail gôl rai munudau cyn yr egwyl.[8] Enillodd Cymru 2-1.
Gwnaeth Johnson ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn y gêm gyfartal 0-0 yn erbyn yr UDA ar 12 Tachwedd 2020.[9] Gwnaeth Johnson ei ddechrau cyntaf i Gymru yn erbyn y Ffindir ar 1 Medi 2021,[10] lle enillodd gic o'r smotyn.[11]
Chwaraeodd ran flaenllaw ym muddugoliaeth Cymru yn erbyn Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn erbyn Belarws yn gemau rhagbrofol Cwpan Pêl-droed y Byd 2022.[12] Cafodd ergyd agos yn y gêm lle sgoriodd Gareth Bale hat-tric ac enillodd Cymru 2-3.[13]
Mae Johnson yn fab i gyn-ymosododwr Ipswich Town a Nottingham Forest, David Johnson.[1][14]
|accessdate=, |date=
(help)
|accessdate=
(help)
|accessdate=
(help)
|accessdate=
(help)
|accessdate=
(help)
|accessdate=, |date=
(help)