Brigit Forsyth | |
---|---|
Ganwyd | 28 Gorffennaf 1940 Caeredin |
Bu farw | 1 Rhagfyr 2023 |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, cerddor |
Priod | Brian Mills |
Actores o Albanes oedd Brigit Dorothea Connell (28 Gorffennaf 1940 – 1 Rhagfyr 2023), sy'n fwy adnabyddus wrth ei henw llwyfan Brigit Forsyth. Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei rolau fel Thelma Ferris yn y sitcom BBC Whatever Happened to the Likely Lads? (1973-74).[1]. Rhwng 2013 a 2019, ymddangosodd hi yng nghyfres BBC Still Open All Hours.
Cafodd Forsyth ei geni ym Malton, Gogledd Swydd Efrog, Lloegr,[2] [3] yn ferch i'r pensaer Frank James Connell a'i wraig, a oedd yn arlunydd.[4] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Merched San Siôr,[5]Caeredin. Bu'n gweithio fel ysgrifenyddes cyn astudio yn yr Academi Frenhinol Celf Ddramatig yn Llundain, lle enillodd Wobr Emile Littler. [6]
Priododd Forsyth â'r cyfarwyddwr teledu Brian Mills (m. 2006) ym 1975. [7] Bu iddynt ddau o blant, un ohonynt yw'r actores Zoe Mills.
Bu farw Forsyth yn 83 oed.[8]