Brigitte Kronauer | |
---|---|
Ganwyd | Brigitte Kronauer 29 Rhagfyr 1940 Essen |
Bu farw | 22 Gorffennaf 2019 Hamburg |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd |
Cyflogwr | |
Arddull | Erzählung, traethawd |
Gwobr/au | Gwobr Georg Büchner, Gwobr-Heinrich-Böll, Gwobr Vilenica, Gwobr Joseph-Breitbach, Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen, Gwobr Samuel-Bogumil-Linde, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Berliner Literaturpreis, Fontane-Preis, Gwobr SWR-Bestenliste, Ida-Dehmel-Literaturpreis, Gwobr-Jean-Paul, Gwobr Thomas-Mann |
Awdures Almaenig yw Brigitte Kronauer (29 Rhagfyr 1940 – 22 Gorffennaf 2019) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel addysgwraig a nofelydd.[1] Yn 2005, fe'i anrhydeddwyd gyda Gwobr Georg Büchner am ei gwaith llenyddol. Daeth i amlygrwydd gyda'i nofel gyntaf Frau Mühlenbeck im Gehäuse.[2]
Fe'i ganed yn Essen ar 29 Rhagfyr 1940 a'i magu yn Bochum ac Aachen. Astudiodd addysg yn Cologne ac Aachen. Yn 1997 dyfarnwyd iddi ddarlithyddiaeth ôl-ddoethurol yn ETH Zurich yn semester y gaeaf 1997/98, ac yn 2011, cymerodd swydd fel darlithydd barddoniaeth Tübingen yn nhalaith Baden-Württemberg. Yn 2012, cynhaliodd Brigitte Kronauer ddarlithoedd mewn barddoniaeth yn Zurich, y Swistir.
Yn 2019 roedd yn byw fel awdur llawrydd yn Hamburg.[3][4][5][6][7][8]
Mae Kronauer yn aelod o Gymdeithas Awduron VS ac Academi Iaith a Barddoniaeth yr Almaen. [9]
|deadurl=
ignored (help)