Toesyn tebyg i fara Ffrengig ydy Brioche. Ystyrir brioche yn Viennoiserie. Caiff ei greu yn yr un modd â bara, ond mae ganddo waead tebycach i does am fod ganddo gyfran uchel o ŵyau, menyn, hylif (llaeth, dŵr, hufen, ac weithiau brandi) ac yn achlysurol ychydig o siwgr. Mae brioche, ynghyd â pain au lait a pain aux raisins — a fwytir yn aml adeg brecwast ac fel byrbryd — yn creu'r is-grŵp lefeinllyd Viennoiserie. Yn aml coginir brioche gyda darnau siocled a chaiff ei weini fel toesyn neu fel pwdin gyda nifer o addasiadau o ran cynhwysion.