Math o gyfrwng | tacson |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Abraxas |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brith golau | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Geometridae |
Genws: | Abraxas |
Rhywogaeth: | A. pantaria |
Enw deuenwol | |
Abraxas pantaria (Linnaeus, 1767)[1] | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw brith golau, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy brithion golau; yr enw Saesneg yw Light Magpie, a'r enw gwyddonol yw Abraxas pantaria.[2][3] Mae i'w weld gan amlaf yn ngwledydd Môr Canoldir yn enwedig Portiwgal a Sbaen ac yn achlysurol yng ngwledydd Prydain, Iwerddon, Croasia, Armenia, Rwsia, Twrci a Georgia.
Fe'i disgrifiwyd yn wreiddiol gan Linnaeus yn 1767.[4]
Hyd adenydd yr oedolyn ydy 38–42 mm (y fenyw) a 35–40 mm (y gwryw). Lliw hufenog golau neu wyn sydd iddynt ac mae gan y pen, y thoracs a'r abdomen flew brown golau. Ceir sbotiau brown tywyll ar y thoracs a phob cylchran (segment) o'r abdomen. Gyn, lliw asgwrn, ydy'r adenydd ac mae bôn yr adain ychydig yn dywyllach. Ceir smotiau hefyd ar y blaen-adain - tua'r canol, a smotiau llai ar yr ôl-adain.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r lindysyn yn bwyta llawer o ddail Fraxinus excelsior ac maent yn bla. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.