Delwedd:Nymphalidae - Boloria (Clossiana) dia-001.JPG, Nymphalidae - Boloria (Clossiana) dia.JPG | |
Enghraifft o: | tacson ![]() |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth ![]() |
Rhiant dacson | Clossiana ![]() |
![]() |
Boloria dia | |
---|---|
![]() | |
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Boloria |
Rhywogaeth: | B. dia |
Enw deuenwol | |
Boloria dia Linnaeus, 1767 | |
Cyfystyron | |
|
Glöyn byw bychan sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw britheg borffor, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy brithegion porffor; yr enw Saesneg yw Weaver's Fritillary, a'r enw gwyddonol yw Boloria dia.[1][2] Daw'r enw Saesneg Weaver o enw'r person (Richard Weaver) a gofnododd fodolaeth y glöyn byw am y tro cyntaf yn y 19eg ganrif. Credir, bellach, mai wedi'u mewnforio i wledydd Prydain oedd y gwyfyn hwn, ar gychod efallai. Mae i'w ganfod yn Ewrop hyd at Dwrci a Mongolia.
16–17 mm ydy hyd yr adenydd blaen.
Yn Ewrop mae'r siani flewog yn gloddesta ar fathau o: fioled (Viola odorata, Viola hirta, Viola canina, Viola reichenbachiana, Viola tricolor), a'r tu allan i Ewrop ei phrif fwyd yw mathau o Prunella vulgaris a Rubus idaeus.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r britheg borffor yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.