Math o gyfrwng | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | London Records |
Dod i'r brig | 1983 |
Dod i ben | 1995, 2018 |
Dechrau/Sefydlu | 1983 |
Genre | synthpop, Hi-NRG, y don newydd, dance-rock |
Enw brodorol | Bronski Beat |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Triawd synthpop a oedd yn boblogaidd yng nghanol y 1980au, (yn enwedig gyda'u cân "Smalltown Boy" yn 1984) oedd Bronski Beat. Roedd holl aelodau'r grŵp yn hoyw ac yn aml roedd eu caneuon yn adlewyrchu hyn, ac yn cynnwys sylwebaeth wleidyddol ar faterion LHDT. Yn eu hanterth, aelodau'r grŵp oedd y prif leisydd Jimmy Somerville, gyda Steve Bronski a Larry Steinbachek yn canu'r allweddau a'r offerynnau traw. Yn hwyrach aeth Somerville ymlaen i fod yn brif leisydd The Communards ac i weithio ar ei ben ei hun.