Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 27 Ebrill 1746 |
Rhan o | Gwrthryfeloedd Iacobitaidd |
Lleoliad | Culloden |
Gwladwriaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymladdwyd Brwydr Culloden (Gaeleg: Blàr Chùil Lodair) ar 16 Ebrill, 1746, rhwng byddin y Jacobitiaid dan Charles Edward Stuart a byddin y llywodraeth Hanoferaidd dan William Augustus, Dug Cumberland, mab Siôr II, brenin Prydain Fawr.
Ar 23 Gorffennaf, 1745, glaniodd Charles a saith cydymaith yn Eriskay yn Ucheldiroedd yr Alban, i gefnogi hawl ei dad i'r orsedd. Cododd faner ei dad yn Glenfinnan, a llwyddodd i godi digon o ddilynwyr i ymdeithio tua dinas Caeredin. Ar 21 Medi 1745, gorchfygodd fyddin y llywodraeth ym Mrwydr Prestonpans, ac erbyn Tachwedd roedd ganddo fyddin o 6,000. Ymdeithiodd tua'r de, gan anelu am Lundain, a chyrhaeddodd cyn belled a Derby. Yma, oherwydd diffyg cefnofaeth gan Jacobitiaid Lloegr, penderfynwyd troi'n ôl am yr Alban. Dilynwyd ef gan fyddin y llywodraeth dan William Augustus, Dug Cumberland.
Ymladdwyd y frwydr gerllaw pentref Culloden, heb fod ymhell o Inverness yn Ucheldiroedd yr Alban. O Ucheldiroedd yr Alban y deuai'r rhan fwyaf o fyddin y Jacobitiaid, tra'r oedd y fyddin Hannoferaidd yn cynnwys catrodau o Loger ac Iseldiroedd yr Alban. Yn rhannol oherwydd i Charles fynnu ymosod pan oedd ei filwyr dan anfantais, gorchfygwyd y Jacobitiaid yn llwyr. Bu Charles ar ffô yn Ucheldiroedd yr Alban am fisoedd cyn medru dychwelyd i Ffrainc ym mis Medi. Bu fyw yn Ffrainc a'r Eidal hyd ei farwolaeth.
Yn dilyn y frwydr, lladdwyd llawer o'r Ucheldirwyr gan fyddin Cumberland, ac enillodd ef yr enw "Butcher Cumberland". Pasiwyd deddfau i ddinistrio trefn gymdeithasol yr Ucheldiroedd, ac i wahardd eu gwisg draddodiadol. Dilynwyd hyn yn ddiweddarach gan broses Clirio'r Ucheldiroedd.
Mae'r nofel Pen yr Yrfa (nofel fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1931) gan Morris Thomas yn dilyn hynt a helynt Cymry Jacobinaidd o Wynedd ac yn cynnwys disgrifiad o Frwydr Culloden.[1]