Brwydr Maes Bosworth

Brwydr Bosworth
Rhan Rhyfeloedd y Rhosynnau

Harri Tudur, y cyntaf o frenhinllin y Tuduriaid
Dyddiad 22 Awst 1485
Lleoliad Market Bosworth, Swydd Gaerlŷr
Canlyniad Buddugoliaeth i'r Lancastriaid
Cydryfelwyr
Rhisiart III, brenin Lloegr, Iorciaid

John Howard, dug cyntaf Norfolk
Henry Percy, 4ydd iarll Northumberland

Harri Tudur, Iarll Richmond, Lancastriaid Cymru a gogledd Lloegr, hurfilwyr Ffrengig ac eraill
John de Vere, 13ydd iarll Oxford

Sir Gilbert Talbot
Siasbar Tudur
Rhys ap Thomas
Philibert de Chandée, iarll cyntaf Bath

Arweinwyr
Rhisiart III, brenin Lloegr Iarll Richmond
Iarll Rhydychen
Nerth
10,000 5,000
Anafusion a cholledion
1,000 100

Frwydr Maes Bosworth (hen enw: Brwydr Bosworth) oedd brwydr olaf Rhyfeloedd y Rhosynnau a ymladdwyd ar 22 Awst, 1485. Roedd Rhyfel y Rhosynnau'n rhyfel cartref rhwng a Lancastriaid a'r Iorciaid a barhaodd am ddegawdau ola'r 15g, ac mae brwydr Maes Bosworth yn nodi diwedd teyrnasiad y Plantagenetiaid, pan laddwyd arweinydd yr Iorciaid, Richard III, brenin Lloegr gan fyddin Harri Tudur a ddaeth ar faes y gad yn Harri VII. Dyma, felly'r cyfnod hwnnw a elwir yn Cyfnod y Tuduriaid.

Glaniodd Harri Tudur ym Mhont y Pistyll ger Dale yn Sir Benfro,[1] ar 7 Awst, gyda byddin fechan o Lancastriaid, yn Ffrancwyr, Llydawyr ac Albanwyr yn bennaf, efallai tua 2,000 i gyd. Teithiodd o Benfro tua'r gogledd-ddwyrain yn hytrach na'n uniongyrchol tua'r dwyrain, ac yn ardal Cefn Digoll ger Y Trallwng ymunodd nifer sylweddol o Gymry â'i fyddin: llu o dde-orllewin Cymru dan Rhys ap Thomas, gwŷr Gwent a Morgannwg dan yr Herbertiaid a gwŷr o ogledd Cymru dan William Griffith o'r Penrhyn. Dywedir bod Harri wedi ymgynghori â'r brudwr enwog Dafydd Llwyd o Fathafarn yn ei blasdy bychan ym Mathafarn ar ei ffordd yno i gael ei farn ; chwaraeodd y cerddi brud a gylchredai yng Nghymru ran bwysig yn ymgyrch Harri Tudur fel modd i ysbrydoli ei gefnogwyr yng Nghymru i gredi mai ef oedd y Mab Darogan hirddisgwyliedig a fyddai'n adfer Ynys Prydain i feddiant y Brythoniaid, gan wireddu'r hen ddarogan. Erbyn iddo gyrraedd Cefn Digoll roedd ganddo fyddin o tua 5,000.

Cofeb am laniad Harri Tudur ym Mhont y Pistyll ger Dale yn Sir Benfro.

Roedd gan Rhisiart III, brenin Lloegr fyddin gryn tipyn yn fwy, ond roedd amheuaeth ynghylch teyrngarwch llawer ohonynt. Cyfarfu'r ddwy fyddin ar safle gerllaw Sutton Cheney a Market Bosworth yn Swydd Gaerlŷr yng nghanolbarth Lloegr, ond mae dadl ynglŷn â'r union leoliad. Tua dwyawr yn unig y parodd y frwydr, ac roedd tua 6,000 o wŷr dan Arglwydd Stanley a'i frawd, ac wedi iddynt wrthod ymuno a'r frwydr ar y dechrau, ymosodasant i gefnogi Harri Tudur. Lladdwyd Richard, a daeth Harri Tudur yn frenin fel Harri VII.

Llinell Amser

[golygu | golygu cod]
Taith Harri Tudur drwy Gymru.
Map o Loegr gan ddangos lleoliad trefi a brwydrau.
Berwick
Llundain
Efrog
Plymouth
Poole
Northumberland
Amwythig
Aberdaugleddau
Brwydr Bosworth brwydrau eraill
  • 1 Awst 1485 - 30 o longau Ffrainc yn gadael porthladd Harfleur gydag oddeutu 2,000 o filwyr
  • 7 Awst - Glaniodd Harri ym Mhont y Pistyll (Dale), ger Hwlffordd
  • 7 Awst - 15 Awst – Gorymdeithiodd drwy Orllewin Cymru a Rhys ap Thomas drwy Ddwyrain Cymru, gan gasglu milwyr wrth fynd
  • 16 Awst - Byddinoedd Harri a Rhys yn cyfarfod ar fynydd Cefn Digoll ger Y Trallwng, Powys
  • 21 Awst – Cyrhaeddod Bosworth, ger Caerlŷr
  • 22 Awst – Brwydr Maes Bosworth

Gadael Honfleur

[golygu | golygu cod]

Ymgasglodd llu enfawr ym Mhorthladd Ffrengig Honfleur, ar aber y Seine, yn niwedd Gorffennaf 1485, tua 500 ohonynt yn Saeson a Chymru alltud. Yn hanes 'John Major' a gyhoeddwyd yn 1521 sonir i Siarl VIII, brenin Ffrainc gynnig 5,000 o filwyr i Harri, gyda mil o'r rheiny'n dod o'r Alban, gyda Syr Alexander Bruce yn eu harwain. Ond nid yw'n glir faint yn union o Ffrancwyr a ddaeth. Yn rhyfeddol, ni sonia'r un hanesydd o Loegr am yr Albanwyr hyn.[2] Wedi'r frwydr fe welwn i Harri wobrwyo Bruce gyda thaliad blynyddol o £20. Mae'r hanesydd Saesneg Chris Skidmore yn awgrymu fod dros hanner milwyr y llynges yn Ffrancwyr, llawer ohonynt o arsiwn Phillipe de Crevecoeur, Arglwydd Esquerdes. Cytuna Croniclwr Crowland gyda hynny, pan ddywedodd fod cymaint o Ffrancwyr ag oedd o 'Saeson'. Yn ôl Commynes roedd y 3,000 o Ffrancwyr a gasglodd 'ymhlith y dynion mwyaf didrefn Normandi cyfan!' Mae'n bosibl fod cadw'r rhain ar wahân i fyddin Rhys ap Thomas wedi bod yn ffactor pam y trafeiliodd y ddwy garfan ar wahân drwy Gymru.[3]

Gadawodd 30 o longau Honfleur ar 1 Awst 1485 a chafwyd 'gwynt teg a ffafriol' y tu ôl iddynt. Philibert de Chandée oedd arweinydd y Ffrancwyr a chapteiniwyd y llongau gan Guillaume de Casanove (ei lysenw oedd "Coulon").

Saith diwrnod yn ddiweddarach, cyrhaeddodd y llynges arfordir Penfro gan lanio ym Mae Pont y Pistyll, ger Dale.

Y daith trwy Gymru ac i Faes Bosworth

[golygu | golygu cod]
Ffenstr liw yn Sutton Cheney: Richard III (ch) a Harri Tudur (dde).
7 Awst

Wedi glanio, ni chafwyd ymosodiad arnynt o gwbwl, a chysgodd byddin Harri o fewn tafliad carreg i Gastell Dale. Dadorchuddiwyd dwy faner: baner San Sior a Draig Goch: red fiery dragon beaten upon white and green sarcenet. Urddodd wyth o'i ddilynwyr yn y fan a'r lle, seremoni a weithredir fel arfer gan frenin; dyma ddatganiad cyntaf Harri o'i honiad mai ef oedd gwir frenin Lloegr.

8 Awst

Yn y bore, martsiodd y fyddin i Hwlffordd, dinas weinyddol Sir Benfro yr adeg honno, a chawsant gryn groeso gan y dinasyddion, yn enwedig gan fod y gwir 'Iarll Penfro', sef Siasbar Tudur yn un o'r criw. Ymunodd y Cymro Arnold Butler â Harri gan fynegi fod y cyfan o Benfro y tu ôl iddo; roedd y ddau wedi cyfarfod misoedd ynghynt yn Llydaw i drefnu'r ymosodiad. Cyfaill agosaf Arnold Butler oedd Rhys ap Thomas, ac roedd hyn yn allweddol i lwyddiant y Cymry. Ymunodd dau arall: Gruffydd Rede o Gaerfyrddin a'i filwyr a John Morgan o Dredegar, Gwent. Ar yr ail o Awst, dringodd y fyddin drwy Fwlch-y-gwynt a thros Mynyddoedd y Preselau ac ymlaen i'r gogledd tuag at y Fagwyr Lwyd, ychydig i'r de o Gilgwyn.

Ar yr 8fed o Awst, hefyd y dechreuodd Rhys ap Thomas ar ei daith drwy ddwyrain Cymru. Dewisiodd Rhys lwybr gwahanol i Harri am dri rheswm: yn gyntaf roedd yn casáu'r Ffrancwyr - a dyna oedd tros hanner byddin Harri.[4] Yn ail, ceisiodd chwarae'r ffon ddwybig gan beri i Richard III gredu ei fod o'i blaid, ac felly nid ymosododd Richard ar unwaith gan ei fod yn teimlo'n saff. Yn drydydd, rhoddodd ei hun a'i fyddin o tua dwy fil a hanner o filwyr profiadol, arfog rhwng Harri a Richard. Roedd hyn hefyd yn golygu ei fod ef ar lwybr gwahanol yn casglu milwyr ato, o gymunedau gwahanol i Harri. Roedd Arnold Butler, Gruffydd Rede a John Morgan, cyfeillion pennaf Rhys yn cyd-deithio â Harri, ac yn ddolenau cryfion rhwng y ddau arweinydd, y ddwy fyddin. Ceir cefnogaeth i hyn gan gofnod o ymateb Richard III pan glywodd fod Harri wedi glanio ym Mhenfro: 'ychydig o ddynion sydd ganddo, a drwg fydd ei dynged: naill ai ymladd yn erbyn ei ewyllus neu ei gymryd yn garcharor gan Walter Herbert a Richard Thomas.' Yn ôl The Life of rhys thomas cymerodd Rhys lwybr gwahanol i Harri 'er mwyn cryfhau ei fyddin... a hysbysu'r Cymry wrth fynd ei fod yn bleidiol i Harri'.[5]

Fin nos, wedi taith hir a blinedig, gwersyllodd milwyr Harri ger "y pumed garreg filltir i gyfeiriad Aberteifi".

9 Awst

Teithiodd y fyddin dros y Preselau, dros Fwlch y Gwynt; teithiwyd 17 milltir y diwrnod hwnnw nes dod o fewn milltir i Aberteifi: Magwyr Lwyd (i'r de o Cilgwyn). Mae olion y tŷ yn dal i'w weld heddiw (2016) yng nghanol ychydig o goed ffawydd.

10 Awst
Neuadd Llwyndafydd

Croeswyd y Teifi ger tref Aberteifi gan aros am seibiant (medd y traddodiad) yn nhafarn "Y Tri Morwr" er mwyn sygrifennu rhagor o lythyrau i dywysogion ac Arglwyddi Cymreig. Ceir copi o un o'r rhain - llythyr at "John ap Meredith ap Jevan ap Meredith", sgweiar o ardal Eifionydd. Ynddo, mae'n dweud: "... the great confidence that we have to the nobles and commons (hy yr uchelwyr a'r werin) of this our Principality of Wales... to descend into the realm of England for the recovery of the crown unto us... for the opression of that odious tyrant Richard late duke of Gloucester (hy Richard III)... and (return) their people to their original liberties, delivering them from such miserable servitudes..." Yn y llythyr hwn mae Harri'n gosod ei hun fel achubwr cenedl y Cymry ac yn annog ei bobl i ochri gydag ef.[6]

Ger y 14fed garreg filltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberteifi arhosodd y fyddin i gael cyflenwad o ddŵr o Ffynnondewi. Wedi diwrnod hir o deithio 23 milltir, codwyd gwersyll ar dir plasty "Neuadd", cartref Dafydd ap Ieuan yn Llwyndafydd ym mhlwyf Llandysilio-gogo, ger Cwm Tydu. Mae Cwm Tydu ar yr arfordir, ac ychydig i ffwrdd o'u taith naturiol o Aberteifi i Aberystwyth, felly gellir ystyried y posibilrwydd i Harri gyfarfod a llongau yma, gyda chyflenwad o fwyd, arfau neu filwyr. Fel llawer o'r Cymry a fu'n driw iddo ar ei daith, gwobrwywyd Dafydd ap Ieuan, wedi buddugoliaeth Maes Bosworth am ei garedigrwydd gydag anrheg o Gorn Hirlas ar orffwysfa arian, wedi'i addurno gyda draig Goch a milgi.

11 Awst

Yn "Wern Newydd", yn ôl y traddodiad y cafwyd y seibiant nesaf: pedair milltir o Lwyn Dafydd. ac yna ymlaen nes cyrraedd Eglwys Sant Hilary, yn Llanilar,[7] pedair milltir o Aberystwyth. Duwedir i Harri gysgu'r nos ym mhlasty "Llidiardau", Dyffryn Ystwyth.

12 Awst

Cipiodd Harri Gastell Aberystwyth heb lawer o drafferth; castell a oedd yn cael ei gynnal ar ran y brenin gan Walter Devereux, arglwydd Ferrers. 'Doedd Richard III ddim yn credu fod Harri a llond dwrn o filwyr bler yn fawr o ymosodiad ac nid oedd wedi rhuthro i wared ag ef. Ond pan glywodd fod Castell Aberystwyth wedi disgyn i ddwylo'r Cymro, fe'i hysgytwyd a sylweddolodd ei bod yn bryd iddo alw holl filwyr Lloegr at ei gilydd. Ar y llaw arall, i Harri, roedd yn hynod bles, ond annisgwyl, nad oedd fawr o ymateb milwrol wedi bod yn ei erbyn ers iddo lanio ym Mhenfro. Mae'n bosib i Harri a'i fyddin aros yng nghyffiniau Aberystwyth y noson honno, a danfonodd Harri nifer o sgowtiaid allan o'r dref i weld beth oedd hanes Rhys ap Thomas a Walter Herbert. Yn Rhaeadr, ychydig tua 30 milltir i'r dwyrain oedd byddin Rhys erbyn hyn, oddeutu 2,000 ohonynt, wedi iddo ddanfon cryn lawer o wragedd a phobl ifanc a oedd yn eiddgar i ymuno ag ef, yn ôl i'w cymunedau.

13 ac 14 Awst

Wedi taith o 92 milltir ers glanio ar y 7fed o Awst, cyrhaeddodd y fyddin Machynlleth: tref llawn symboliaeth cenedlaethol a chyn-leoliad senedd Cymru. Yma y brwydrodd hynafiaid Harri yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr. Ac yma y cyfarfu Harri â gwŷr Gwynedd a oedd am ymuno gyda byddin Harri.

15 Awst

Cychwynodd Harri o Fachynlleth, gan droi i gyfeiriad Lloegr, i'r dwyrain ac anelu am yr Amwythig. Teithiwyd 30 milltir y diwrnod hwnnw - i'r Drenewydd a thrwy Bwlchyfedwen nes cyrraedd Dolarddyn, ger Castell Caereinion.

Ar y diwrnod hwn, hefyd, y dechreuodd Thomas Stanley symud ei filwyr o gastell Lathom, yn Swydd Gaerhirfryn tuag at Cilgwri; gwyddai pe bai'n ochri'n agored gyda Harri y byddai Richard yn dial ar ei fab, a gadwai'n wystl. Ac ar yr un pryd, cychwynodd ei frawd, William Stanley a'i fyddin, o'i gastell yn Holt, ger Wrecsam a gydag ef "all of North Wales with him did he bring! - i gyfeiriad Nantwich tua 30 milltir i'r gogledd o'r Amwythig. Roedd William yn gandryll yn erbyn Richard, a Chymry oedd ei fyddin yntau, ond ni ddangosodd ei ochr tan y funud olaf, wedi oriau o ymladd ar faes Bosworth.

16 Awst

Dydd Mawrth: ymlaen am chwe milltir i'r man cyfarfod: bryn gwastad enfawr ychydig i'r dwyrain o'r Trallwng: Cefn Digoll. O gopa Cefn Digoll y gwelodd Harri Loegr am y tro cyntaf ers oedd yn fachgen bach. Yno hefyd y cyfarfu â Rhys ap Thomas a'i fyddin yntau ac yno y cymerodd Rhys lw i'w frenin newydd: Harri Tudur. Rhwng Machynlleth a Chefn Digoll, ymunodd llawer iawn o Gymry gan gynnwys: William Griffiths o'r Penrhyn, ger Bangor, Richard ap Howell o'r Mostyn, Sir y Fflint a Rhys Fawr ap Maredudd o Blas Iolyn o Ddyffryn Conwy. Ceir cofnod i gannoedd o filwyr gyrraedd yn eu sgil yn ogystal ag ych tewion i fwydo'r holl fyddin.

Codwyd y bont yma ("the Welsh Bridge") yn 1792-5, ar sylfaeni pont cynharach. Cyfesurynnau grid: SJ 48880 12771.
17 Awst

Ar ganiad y ceiliog croesodd byddin enfawr Harri dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac at Afon Hafren, a'r "Bont Gymreig" a groesai'r afon, yn borth i dref Seisnig yr Amwythig. Roedd y bont wedi ei chodi, y gatiau wedi'u cau a'r porthuwlis i lawr a gwrtodwyd mynediad iddynt. Dychwelodd y fyddin dair milltir i ffwrdd i bentref Forton, lle treuliwyd y noson. Ymunodd Syr Richard Corbet a'r Cymro Harri Tudur hefyd, ynghyd â 800 o ddynion. Roedd Thomas yn frawd-yng-nghyfraith i'r arglwydd Thomas Stanley, ac felly o bwys mawr.

18 Awst

Oherwydd pwer Stanley (drwy bresenoldeb Richard Corbet) agorwyd y gatiau a chroesawyd y fyddin dros y bont ac i'r dref. Ymunodd Gilbert Talbot gyda 500 o filwyr, Thomas Croft o Henffordd a gwŷr Talgarth.

Yn y cyfamser yn Nottingham y clywodd Richard III y newyddion fod Harri wedi llwyddo i gael mynediad i dre'r Amwythig. Bygythiodd hefyd y byddai'n dial ar y Cymry am ei ganlyn drwy greu "tir diffaith o bobman rhwng Caergybi a Thyddewi. Roedd milwyr Richard yn dechrau ymgynull yn Nottingham, ond araf iawn oeddent yn cyrraedd.

Yna, teithiodd y fyddin i bentref Newport lle codwyd gwersyll am y noson.

19 Awst

A hithau'n ddydd Gwener, teithiodd byddin Harri tua'r gogledd i Stafford lle cyfarfu a William Stanley. ni wyddys yn union beth oedd y sgwrs rhwng Harri a Syr William, ond mae'n ddigon posib i William dyngu llw o ffydlondeb iddo a rhoi gwybod i Harri na fyddai'n dangos ei liwiau tan y funud olaf. Dychwelodd Stanley at ei fyddin. Gwyddus hefyd i Harri newid cyfeiriad ei daith, gan anelu i'r de-ddwyrain gan gyrraedd Lichfield ac ymlaen i Stryd Watling, y ffordd fawr Rufeinig i Lundain.

20 Awst

Ymlaen i ddinas Lichfield dros 'Woosley Bridge', lle cafodd ei dderbyn gan y bobl gyda breichiau agored a chroeso cynnes. Tridiau ynghynt bu Thomas Stanley yn aros yn y ddinas gyda llu o 5,000 o filwyr. Ymddengys ei fod wedi paratoi'r ffordd ar gyfer Harri, sy'n dangos ei beth oedd ei safbwynt, ei duedd ar yr adeg yma: gyda Harri. Roedd sgowtiaid Richard yn dyst i'r croeso hwn a gafodd Harri; sylweddolodd Richard hefyd y gallai Harri fynd fel y coblyn i Lundain a hawlio'r Goron. Gwawriodd arno fod yn rhaid iddo ymosod yn sydyn, cyn i ragor ymuno gyda Harri a chyn iddo gyrraedd Llundain. Gwyddom i fyddin Richard dreulio'r noson yng Nghaerlŷr y noson hon, wedi martsio drwy'r dydd; ymunodd â dug Norfolk a oedd yn aros amdano.

Y frwydr

[golygu | golygu cod]

Yn ôl Ross roedd oddeutu 10,000 o filwyr yn y fyddin Iorcaidd, a gosodd Richard y rheiny ar fryncyn[8][9] mewn llinell o'r dwyrain i'r gorllewin, rhwng pentrefi Sutton Cheny a Shenton. Yn ôl Chris Skidmore roedd 15,000 yn ei fyddin.[2] Ar y dde iddo safodd Norfolk gyda tua 1,200 o saethwyr bwa ac ar y chwith iddo roedd Northumberland, yn gwarchod ei ochr arall gyda tua 4,000 o ddynion, llawer yn farchogion.[10] O'r fan honno gallai Richard weld y brodyr Stanley yn y pellter ar, i gyfeiriad y de ar Dadlington Hill, yn dal eu tir gyda 6,000 o ddynion, heb ochri gyda'r naill ochr na'r llall. I'r de-orllewin gallai weld byddin Harri.[11]

Tua 5,000 o filwyr oedd gan Harri - hanner y nifer ym myddin Richard. Roedd dros eu hanner yn ddynion Rhys ap Thomas. Roedd gan Harri lai na 1,000 o filwyr a oedd yn Saeson: tua 300 a oedd wedi dod o Ffrainc, tua'r un faint o ddynion Talbot, a'r gweddill wedi dianc o fyddin Richard yn ystod yr wythnosau cyn y frwydr. Roedd rhwng mil a 1,700 o filwyr Ffrengig, dan arweiniad Philibert de Chandée yno hefyd a nifer helaeth o Albanwyr gan gynnwys Bernard Stewart, Arglwydd Aubigny.[12][13]

Lladdwyd tua chant o filwyr Harri a 1,000 o filwyr Richard; wedi'r frwydr claddwyd cyrff y ddwy ochr ger Eglwys St James, Dadlington.

Canfuwyd corff Richard III ymhlith y meirwon eraill a dygwyd ef i Eglwys Saint Mary-in-the-Newark, yn noeth ac yna ymlaen i Gaerlŷr lle cafodd ei arddangos yn gyhoeddus am ddeuddydd for all men to wonder upon; yna claddwyd ef yn Eglwys Greyfriairs, sef rhan o'r Fynachdy Ffransiscaidd yn ddiseremoni. Pan ddimwyd y mynachlogydd, anrheithiwyd ei feddrod a chladdwyd ei gorff gan leianod yng ngardd eu capel a chanrifoedd yn ddiweddarach yn faes parcio.

Wedi'r drin...

[golygu | golygu cod]

Wedi cyfnod byr yng Nghaerlŷr, ar y 3ydd o Fedi, teithiodd Harri a'i osgordd i Lundain gan arwain prosesiwn o Shoreditch i Eglwys Gadeiriol Sant Paul gan osod y Ddraig Goch a dwy faner arall i orffwys wrth yr allor. Pythefnos yn ddiweddarach daeth wyneb yn wyneb â'i fam am y tro cyntaf ers pan oedd yn 14 oed (1470); daeth hithau i Lundain i fyw yn un o'i dai: Coldharbour, ar lan y Tafwys.

Yn dilyn y frwydr canodd y beirdd, gan gynnwys Guto'r Glyn a ganodd gywydd i Rhys ap Tomas o Abermarlais a'i ran ym muddugoliaeth Harri:

Cwncwerodd y Cing Harri 
Y maes drwy nerth ein meistr ni: 
Lladd Eingl, llaw ddiangen, 
Lladd y baedd, eilliodd ei ben, 
A Syr Rys mal sŷr aesawr 
Â’r gwayw ’n eu mysg ar gnyw mawr.[14]

Roedd nifer o noddwyr eraill Guto'r Glyn yn cefnogi Harri ac yn eu plith roedd Syr Water Herbert, Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan, Rhys ap Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn a mwy na thebyg yr Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell. Roedd Siôn Edward o Blasnewydd yno ym myddin Syr William Stanley, a chyfeiria Guto at y pryder amdano ac yntau wedi teithio i Loegr 'yn awr angen y baedd':

Yn rhaid y baedd rhodiaw bu 
Yn Lloegr, ninnau'n llewygu; 
A Duw a'r saint a'i rhoes ef 
O'r frwydr, ef a'i wŷr, adref.

Gwobrwywyd llawer o gefnogwyr Cymreig, wedi'r frwydr, gan gynnwys Siasbar Tudur (Dug Bedford) a Rhys ap Thomas (marchog). Erbyn 1496 aeth y rhan fwyaf o swyddi cyhoeddus Cymru i ddwylo'r Cymry ac ehangodd eu cyfle yn Lloegr i ddal swyddi a gwneud gyrfa iddynt eu hunain yno. Dyrchafwyd hefyd lawer o Gymry'n esgobion a swyddi eraill yn yr Eglwys yng Nghymru; cafwyd esgobion Cymreig yn Nhyddewi (1496), Llanelwy (1500) a Bangor (1542). Daeth arglwyddi'r Mers hefyd i ben ac erbyn 1509, tri'n unig oedd ar ôl: Buckinham (Brycheiniog a Chasnewydd), Charles Somerset (Cas-Gwent, Cruchywel, Rhaglan a Gŵyr) ac Edward Grey (rhan o Bowys).

Ymhlith y rhai dderbyniodd anrhydeddau neu nawdd roedd ei dad gwyn, Thomas Stanley, a dderbyniodd faenorau yn Fflint, Caer a Warwick. Gwnaed Rhys ap Thomas yn Farchog ac yn Siambrlaen De Cymru a'i ewyrth Siasbar yn Arglwydd Brif Ustus De Cymru ac Adam ap Jevan ap Jenkins yn Dwrnai'r Brenin yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi. Gwobrwywyd hefyd lawer o Gymry a ymunodd â Harri ar eu taith drwy Gymru, gan gynnwys: Morris Lloyd, Owen Lloyd (Cwnstablaeth Castell Aberteifi) ac William Gruffudd (William Griffith) yn Siambrlaen Gogledd Cymru a William Stanley (perthynas teulu'r Stanley) yn Arglwydd Brif Ustus Gogledd Cymru. Gwobrwywyd meddyg Elizabeth Woodville, sef Lewis o Gaerleon a heriodd farwolaeth sawl tro yn mynd a negeseuon rhwng Elizabeth a Margaret Beaufort, mam Harri, gyda nawdd blynyddol o £40. Yn ôl J. M. Edwards, chwaraeodd y telu Mostyn ran blaenllaw iawn yn y frwydr; dywed i un o'r teulu, Huw Conwy o Fodrhyddan ddilyn Harri i Lydaw gyda neges am y trefniadau diweddaraf. Noda hefyd i Richard ap Howell, Mostyn arwain 1,600 o ddynion i gyfarfod Harri, ychydig cyn y frwydr. Am hyn derbyniodd gleddyf a gwregys Harri.[15]

Derbyniodd y canlynol hefyd roddion a gwobrau: Rhydderch ap Rhys, Maurice ap Owen a Richard Owen (Stiwardiaeth Cydweli), Rhys ap llywelyn ap Hulkyn (Statws 'Sais'); rhoddwyd rhodd i un o brif filwyr Harri a fu gydag ef ar hyd y daith o Lydaw, sef yr Albanwr Alexander Bruce. Gwobrwywyd dros 400 o bobl yn ystod y blynyddoedd dilynol.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Y Gwyddoniadur Cymreig; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008; tud 93.
  2. 2.0 2.1 Bosworth: The Birth of the Tudors gan Chris Skidmore; Phoenix / Orion Books 2013; Llundain; isbn=978-0-7538-2894-6 tud: 224; adalwyd 11 Ionawr
  3. Bosworth: The Birth of the Tudors gan Chris Skidmore; Phoenix / Orion Books 2013; Llundain; isbn=978-0-7538-2894-6 tud: 234; adalwyd 11 Ionawr
  4. Cofnodwyd yn ei gofiant Life of Rhys ap Thomas a sgwennwyd tua diwedd ei oes, ei awydd barhaus i soundly to cudgel those French dogs. Gweler Bosworth gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix; 2013; tud. 234.
  5. Gweler Bosworth gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix; 2013; tud. 253.
  6. Bosworth: The Birth of the Tudors gan Chris Skidmore; Phoenix / Orion Books 2013; Llundain; isbn=978-0-7538-2894-6 tud: 238; adalwyd 11 Ionawr
  7. Gweler: Ceredigion : Journal of the Cardiganshire Antiquarian Society - Cyf. 10, rhif. 1-4 1984-1987 Un o'r harddaf yn y parth hwn o'r sir : adnewyddu Eglwys Llanilar, 1873-4: 'Roedd Sant Liar yn un o'r seintiau Celtaidd llai pwysig a drigai naill ai yn ystod y chweched ganrif neu'r seithfed ganrif wedi geni Crist. Awgryma'r diweddar Athro E.G. Bowen fod liar yn un o'r cenhadon teithiol, y 'peregrini' a ddaeth drosodd o Ffrainc i Gymru ac ymsefydlu yn Llanbadarn Fawr. O'r fam eglwys honno yr aeth rhai ohonynt, ac liar yn eu mysg, allan i genhadu ac i sefydlu eglwysi bychain ymhlith trigolion paganaidd gogledd Ceredigion.
  8. Ross 1999, t. 215.
  9. Mackie 1983, t. 52.
  10. Gravett 1999, tt. 54–55; Ross 1999, tt. 217–218.
  11. Ross 1999, t. 217.
  12. Mackie 1983, t. 51.
  13. Major 1892, t. 393.
  14. gutorglyn.net; Archifwyd 2019-11-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 4 Chwefror 2017.
  15. Cambridge County Geographies Flintshire; J. M. Edwards adalwyd 8 Chwefror 2017.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Emyr Wyn Jones, Bosworth Field: A Welsh Perspective (1984)
  • A.L. Rowse, Bosworth Field and the Wars of the Roses (1966)