![]() | |
Enghraifft o: | brwydr ![]() |
---|---|
Dyddiad | 15 Awst 778 ![]() |
Rhan o | Expedition of Charlemagne of 778 ![]() |
Lleoliad | Bwlch Ronsyfal ![]() |
![]() | |
![]() |
Ymladdwyd Brwydr Ronsyfal (Ffrangeg: Roncevaux, Sbaeneg: Roncesvalles) ym Mwlch Ronsyfal, ar y ffin rhwng Sbaen a Ffrainc, ar 15 Awst 778, rhwng rhan ôl byddin Siarlymaen, dan Rolant, arglwydd Mers Llydaw, a llu y Basgiaid.
Yng ngwanwyn 778, roedd Siarlymaen wedi bod yn ymgyrchu yn Sbaen. Wrth ddychwelyd i Ffrainc, ymosodwyd ar ran ôl y fyddin gan y Basgiaid. Gorchfygwyd y Ffranciaid, a lladdwyd Rolant yn yr ymladd. Anfarwolwyd y digwyddiad yn y Chanson de Roland, ond newidiwyd yr hanes; yn y Chanson, bellach y Mwslimiaid yw'r gelyn.
Cyfeirir at y frwydr gan Iorwerth C. Peate (ganwyd 1901) yn ei gerdd Ronsyfál sy'n cynnwys y cwpledi:
Ni ddaw o'r niwl un milwr tal,
o'r hen oes fud, i Ronsyfál.
a:
ac aros nes i'r gwyll fy nal,
a'r nos a fu yn Ronsyfál.
Mae Can Roland, sy'n adrodd hanes Rolant a Brwydr Ronsyfal yn cael ei gynnwys yn llyfr T Rowland Hughes Storïau Mawr y Byd[1]