Enghraifft o: | brwydr |
---|---|
Rhan o | Rhyfel Indo-Tsieina |
Dechreuwyd | 13 Mawrth 1954 |
Daeth i ben | 7 Mai 1954 |
Lleoliad | Điện Biên Phủ |
Gwladwriaeth | Fietnam |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y frwydr a ddaeth â therfyn i Ryfel Indo-Tsieina oedd Brwydr Điện Biên Phủ (Ffrangeg: Bataille de Diên Biên Phu; Fietnameg: Chiến dịch Điện Biên Phủ) a ymladdwyd rhwng Corfflu Alldeithiol Ffrengig y Dwyrain Pell, lluoedd Undeb Ffrainc yn Indo-Tsieina, a chwyldroadwyr comiwnyddol y Việt Minh. Digwyddodd rhwng Mawrth a Mai 1954 a ddaeth i ben gyda threchiad i'r Ffrancod a ddylanwadodd trafodaethau dros ddyfodol Indo-Tsieina yng Nghynhadledd Genefa.
O ganlyniad i gamsyniadau gan yr arweinwyr milwrol Ffrengig, cychwynnwyd ymgyrch i gefnogi'r milwyr yn Điện Biên Phủ, yn nyfnderoedd bryniau gogledd-orllewin Fietnam. Ei phwrpas oedd i dorri llinellau cyflenwi y Việt Minh i mewn i Deyrnas Laos, oedd yn gynghreiriad i Ffrainc, a thynnu'r Việt Minh yn dactegol i mewn i frwydr fawr bydd yn ei niweidio'n sylweddol. Nid oedd y Ffrancod yn ymwybodol o artileri trwm y Việt Minh (gan gynnwys gynnau gwrth-awyrennol) a'i alluogrwydd i symud yr arfau hyn i frigau'r mynyddoedd dros y gwersyllfan Ffrengig, a chafodd y Ffrancod eu hamgylchynu gan y Việt Minh, dan arweiniad yr Uwch-Gadfridog Võ Nguyên Giáp, a buont dan warchae. Meddiannodd y Việt Minh yr ucheldiroedd o gwmpas Điện Biên Phủ a chafodd safleoedd Ffrengig eu peledu. Dilynodd brwydro dyfal ar y tir, yn debyg i ryfela ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwrthyrrodd y Ffrancod ymosodiadau'r Việt Minh ar eu safleoedd tro ar ôl tro. Danfonwyd cyflenwadau ac atgyfnerthiadau trwy'r awyr, ond wrth i safleoedd y Ffrancod gael eu goresgyn ac wrth i rym tanio yn erbyn awyrennau'r Ffrancod gynyddu, wnaeth llai o'r cyflenwadau cyrraedd y lluoedd Ffrengig. Goresgynnwyd y garsiwn ar ôl gwarchae a barhaodd dau fis ac ildiodd y mwyafrif o luoedd Ffrainc. Dihangodd ychydig ohonynt i Laos. Ymddiswyddodd llywodraeth Ffrainc a chefnogodd yr Arlywydd newydd, Pierre Mendès France, enciliad Ffrengig rhag Indo-Tsieina.
Daeth y rhyfel i ben yn fuan wedi'r frwydr gyda Chytundebau Genefa, ac enciliad Ffrainc rhag ei threfedigaethau yn Indo-Tsieina. Rhannwyd Fietnam yn ddwy ran, Gogledd Fietnam a De Fietnam.