Brynley F. Roberts

Brynley F. Roberts
Ganwyd3 Chwefror 1931 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
Bu farw14 Awst 2023 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
AddysgUwch Ddoethor Edit this on Wikidata
Galwedigaethbeirniad llenyddol, llyfrgellydd, ymchwilydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Ysgolhaig a beirniad llenyddol o Gymru oedd Dr Brynley F. Roberts (3 Chwefror 193114 Awst 2023).[1][2] Roedd wedi ysgrifennu'n helaeth am hanes yr iaith Gymraeg a hanes Cheltaidd a fe oedd un o'r awdurdodau pennaf ar y naturiaethwr Edward Lhuyd.

Bu'n Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe ac yn Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1985 ac 1998.[3] Roedd yn un o olygyddion Y Bywgraffiadur Cymreig a bu'n olygydd Y Traethodydd.

Roedd yn aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, yn ogystal â bod rhan flaenllaw yng ngweithgareddau Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Roedd hefyd yn flaenor yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth.[4]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a Rhiannon ac roedd ganddynt ddau o blant, Rolant a Maredudd.

Marwolaeth a theyrngedau

[golygu | golygu cod]

Bu farw yn 92 mlwydd oed, yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.[2] Talwyd teyrngedau iddo gan lawer. Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ei fod yn "un o gymwynaswyr mawr" y sefydliad, ble bu hefyd yn un o'i Gymrodyr Hŷn.

Dywedodd Yr Athro Helen Fulton, is-lywydd y Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru, fod Brynley Roberts "yn un o gewri astudiaethau Celtaidd yn ail hanner yr 20fed Ganrif". "Fe gofir amdano fel awdur toreithiog a golygydd craff," meddai. "Yr oedd yn gyfaill i lawer yn y maes ac yn barod bob amser i estyn cymorth i ysgolheigion ifainc. "Roedd yn aelod cynnar o'r Gymdeithas Ddysgedig ac fe deimlwn ei golli."

Ychwanegodd cyn-Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Gwerfyl Pierce Jones: "Mae'n drist nodi marwolaeth yr Athro Brynley F Roberts ar ôl cystudd hir... Roedd Bryn yn ysgolhaig o fri, yn gyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol, ac yn flaenor ac athro ysgol Sul mawr ei barch yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth."[1]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth lawn hyd at 1997: Huw Walters, "Llyfryddiaeth Dr Brynley F. Roberts", yn Ysgrifau Beirniadol, XXII, gol. J. E. Caerwyn Williams (Dinbych: Gwasg Gee, 1997), tt.22–40

  • Edward Lhuyd, the Making of a Scientist, G.J. Williams Memorial Lecture (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)
  • Brut Tysilio: darlith agoriadol gan Athro y Gymraeg a'i Llenyddiaeth (Abertawe: Coleg Prifysgol Abertawe, 1980)
  • Gerald of Wales, Writers of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1982)
  • Studies on Middle Welsh Literature (Lewiston, NY: Edwin Mellen Press, (1992)
  • Cyfannu'r rhwyg: Hanes Eglwys Salem Aberystwyth 1893-1988 (Aberystwyth: Capel y Morfa, 1995)
  • Cadrawd: Arloeswr Llên Gwerin, Darlith Goffa Henry Lewis (Abertawe: Prifysgol Cymru, 1997)

Golygydd

[golygu | golygu cod]
  • Gwassanaeth Meir (Gwasg Prifysgol Cymru, 1961)
  • Brut Y Brenhinedd: Llanstephan MS 1 Version (Mediaeval & Modern Welsh) (Dublin Institute for Advanced Studies, 1971)
  • Cyfranc Lludd a Llefelys (Mediaeval & Modern Welsh) (Dublin Institute for Advanced Studies, 1975)
  • Early Welsh Poetry: Studies in the Book of Aneirin (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1988)
  • The Arthur of the Welsh: Arthurian Legend in Mediaeval Welsh Literature, gol. gyda Rachel Bromwich ac A.O.H. Jarman (Gwasg Prifysgol Cymru, 1993; argraffiad newydd 1995)
  • Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a'r Alban, gol. gyda Morfydd E. Owen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996)
  • Moelwyn: Bardd Y Ddinas Gadarn (Gwasg Pantycelyn, 1996)
  • The Dictionary of Welsh Biography 1941-1970,(gol. gyda R.T. Jenkins ac E.D. Jones (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 2001)
  • Edward Lhuyd, Archaeologia Britannica: Texts and Translations, gol. gyda D. Wyn Evans (Celtic Studies Publicationns, 2007)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Teyrngedau i'r ysgolhaig a'r cyn-lyfrgellydd Athro Brynley Roberts". BBC Cymru Fyw. 2023-08-16. Cyrchwyd 2023-08-16.
  2. 2.0 2.1 "Teyrnged i'r Athro Brynley F. Roberts: "doeth, hynaws a chymwynasgar"". Golwg360. 2023-08-21. Cyrchwyd 2023-08-21.
  3. "Brynley F. Roberts", Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion; adalwyd 28 Medi 2022
  4.  Swyddogion y Capel.