Buddug Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1932 Cefneithin |
Bu farw | 24 Gorffennaf 2021 Pen-y-groes |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, athro |
Actores o Gymraes oedd Buddug Williams (1932 – 24 Gorffennaf 2021). Roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae cymeriad 'Anti Marian' rhwng 1999 a 2016 yn nrama sebon Pobol y Cwm ar S4C. Ar gychwyn y gyfres yn 1974 bu'n chwarae cymeriad arall, Bet Harries, mam Wayne, Sabrina a Reg.
Roedd yn hanu o bentref Cefneithin yng Nghwm Gwendraeth. Bu'n hyfforddi fel athrawes yn Ngholeg y Barri ac aeth i ddysgu am gyfnod byr yn Birmingham.
Arferai berfformio gyda chwmnïau lleol yn Nghwm Gwendraeth ac yn Birmingham roedd yn rhan o The Welsh Centre Amateur Drama Society. Ymddangosodd mewn ffilmiau fel Twin Town a Very Annie Mary yn ystod ei gyrfa.
Ymunodd â Phobol y Cwm fel cymeriad rheolaidd yn 1999 gan chwarae Marian Rees, gwraig i Bob Rees ac yna modryb fusneslyd i Denzil Rees. Bu farw cymeriad Anti Marian yn ei chwsg mewn pennod a ddarlledwyd ar 24 Chwefror 2016.[1]
Ysgrifennodd Buddug ei hunangofiant yn y gyfrol Merch o'r Cwm.[2]
Roedd yn briod ag Elwyn, a fu farw yn 2011 ac roedd ganddynt fab, Rhodri. Bu farw Buddug yn 88 mlwydd oed ar ddydd Sadwrn, 24 Gorffennaf 2021 yng Nghartref Plas y Bryn, Penygroes.[3][4] Cynhaliwyd ei hangladd ar ddydd Gwener, 13 Awst 2021, yn Amlosgfa Llanelli am 1.00pm o'r gloch.