Math | ardal an-fetropolitan, bwrdeisdref |
---|---|
Ardal weinyddol | Cumbria |
Prifddinas | Workington |
Poblogaeth | 97,527 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cumbria (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1,241.6389 km² |
Cyfesurynnau | 54.64°N 3.412°W |
Cod SYG | E07000026 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Allerdale Borough Council |
Ardal an-fetropolitan yng ngogledd-orllewin Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, oedd Bwrdeistref Allerdale (Saesneg: Borough of Allerdale). Roedd yn cynnwys trefi Aspatria, Cockermouth, Harrington, Keswick, Maryport, Silloth, Wigton a Workington. Pencadlys yr awdurdod oedd Workington. Roedd gan yr ardal arwynebedd o 1,242 km², gyda 96,444 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2017.[1]
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 pan unwyd Bwrdeistref Dinesig gyda Bwrdeistrefi Maryport, Cockermouth a Keswick; a cynghorau dosbarth Cockermouth a Wigton, a leolwyd cyn hynny oddi fewn i Swydd Cumberland. Yn 1995 fe'i rhoddwyd statws bwrdeistrefol. Fe'i ddiddymwyd ar 1 Ebrill 2023 pan gafodd ei chyfuno â Bwrdeistref Copeland a Dinas Caerliwelydd i greu awdurdod unedol newydd Cumberland.