Math | ardal an-fetropolitan, bwrdeisdref ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Norfolk |
Prifddinas | King's Lynn ![]() |
Poblogaeth | 151,811 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Norfolk (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,438.8424 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 52.7549°N 0.3962°E ![]() |
Cod SYG | E07000146 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Borough Council of King's Lynn and West Norfolk ![]() |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn Norfolk, Dwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref King's Lynn a Gorllewin Norfolk (Saesneg: Borough of King's Lynn and West Norfolk).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,429 km², gyda 151,811 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae ei harfordir gogleddol yn gorwedd ar Y Wash a Môr y Gogledd. Mae'n ffinio Ardal Gogledd Norfolk ac Ardal Breckland i'r dwyrain, Suffolk i'r de, a Swydd Lincoln a Swydd Gaergrawnt i'r gorllewin.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Dim ond "Gorllewin Norfolk" oedd ei henw gwreiddiol; cafodd ei henw presennol ym 1981.
Pencadlys yr awdurdod yw King's Lynn. Mae'r ardal yn cynnwys ardal drefol King Lynn ei hun, sy'n ddi-blwyf, ynghyd â 102 o blwyfi sifil o'i hamgylch.