Bwrdeistref Rydd Llanrwst

Bwrdeistref Rydd Llanrwst
Mathmicrogenedl Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Braint arbennig a roddwyd i dref Llanrwst gan Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru oedd Bwrdeistref Rydd Llanrwst. Mae Llanrwst bellach yn dref fechan ac yn gymuned ar Afon Conwy ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Daw ei henw o Sant Grwst o'r 5ed i'r 6ed ganrif. Datblygodd Llanrwst o gwmpas y fasnach wlân, yn rhannol oherwydd fod gorchymyn yn gwahardd unrhyw Gymro rhag masnachu o fewn 10 milltir (16 km) o Gonwy, gan fod Llanrwst 13 milltir (21 km) i ffwrdd ac mewn sefyllfa dda i elwa.

Llun o Feirdd Llanrwst yn 1876 o flaen arfbais Llanrwst

Yn 1276 cipiodd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, a adnabyddir hefyd fel Llywelyn ein Llyw Olaf, y dref, gan ddatgan ei bod yn “fwrdeistref rydd” yn annibynnol o esgobaeth Llanelwy. Er i'r esgob fynd cyn belled a cheisio cymorth y Pab i wyrdroi hyn, methodd ei ymdrechion, gyda Llywelyn yn pledio cysylltiad teuluol agos â'r lle fel rheswm dros ei ddiogelu.

Wedi marwolaeth Llywelyn yn 1282, methodd pob ymgais newydd bellach gan esgob Llanelwy: mynachod Sistersaidd Abaty Aberconwy (lle bu farw Llywelyn Fawr, taid Llywelyn, yn 1240) a fynnodd eu bod yn cael cadw'r annibyniaeth a oedd wedi perthyn iddo am 29 mlynedd, a rhwygwyd unrhyw faneri yn perthyn i'r Esgobaeth neu Edward I. Ganrif yn ddiweddarach, symudwyd y fynachlog 8 milltir (13 km) i fyny'r afon i Abaty Maenan, ger Llanrwst.[1]

O'r herwydd mae gan y dref ei arfbais a'i baner ei hun, a dyma darddiad yr hen arwyddair lleol "Cymru, Lloegr a Llanrwst".[2] Mae'r arwyddair, sy'n dyst i'r annibyniaeth ymddangosol hon, bellach yn fwy adnabyddus oherwydd y gân gyda'r un teitl, gan y band lleol y Cyrff.[2]

Cenhedloedd Unedig

[golygu | golygu cod]

Ym 1947, gwnaeth cyngor tref Llanrwst gais aflwyddiannus i’r Cenhedloedd Unedig am sedd ar y cyngor diogelwch, gan nodi bod Llanrwst yn wladwriaeth annibynnol yng Nghymru. Mae cadeirydd ac ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Llanrwst wedi cael prawf o hyn gan y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.[2] Dychwelodd Ymddiriedolaeth Elusendai ac Amgueddfa Llanrwst faner Llanrwst i'r gymuned yn ddiweddar. Arwyddlun o'r 12fed ganrif ydyw, oedd yn ganolog i gred y dref ei bod yn annibynnol o'r Deyrnas Unedig.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "BBC - Gogledd Orllewin - hanes". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-14.
  2. 2.0 2.1 2.2 Talk of the town BBC News, 28 Ebrill 2006