Y Fyddin Genedlaethol | |
---|---|
Cyfranogwr yn Rhyfel Cartref Iwerddon | |
Bathodyn Cap Aelodau'r Fyddin Genedlaethol | |
Yn weithredol | 31 Ionawr 1922 – 1 Hydref 1924 |
Arweinwyr | Michael Collins |
Maes gweithredol | De Iwerddon, a alwyd yn ddiweddarach yn 'Wladwriaeth Rydd Iwerddon' |
Cryfder | 55,000 |
Ffurf wreiddiol | Byddin Weriniaethol Iwerddon (IRA) |
Newidiwyd yn | Byddin bresennol Gweriniaeth Iwerddon |
Gwrthwynebwyr | Lloegr/'Prydain'; pobl gwrth-Gytundeb; Byddin Weriniaethol Iwerddon (1922–69) (IRA) |
Ffurfiwyd y Fyddin Genedlaethol yn Ionawr 1922 a daeth i ben yn Hydref 1924 (Saesneg: National Army neu'n answyddogol Free State army); ei bwrpas oedd torri'n rhydd oddi wrth Lloegr, gan greu ynys Iwerddon gyfan yn un wladwriaeth annibynnol.[1]
Fe'u ffurfiwyd allan o Byddin Weriniaethol Iwerddon (1916-22) a'r 'Gwirfoddolwyr Gwyddelig', cyn hynny a ffurfiwyd 25 Tachwedd 1913.[2]
Yn dilyn arwyddo Cytundeb Iwerddon-Lloegr yn 1921, a ddaeth a'r Rhyfel dros Annibyniaeth i ben, holltwyd yr IRA, gan fod rhai o blaid ac eraill yn erbyn y Cytundeb. Ffurfiodd yr aelodau a oedd o blaid y Cytundeb fudiad newydd o'r enw y 'Fyddin Genedlaethol', a sefydlwyd gan Michael Collins; ef hefyd oedd y chief of staff hyd at ei farwolaeth yn Awst 1922. Ond roedd mwyafrif yr aelodau'n erbyn y Cytuneb; daethant at ei gilydd i ffurfio Byddin Weriniaethol Iwerddon (1922–69) (Irish Republican Army), gan lynnu at yr hen enw. Daeth y ddwy fyddin benben â'i gilydd rhwng 1922 a 1923 yn Rhyfel Cartref Iwerddon. Ond yr un oedd nod y ddwy fyddin: ffurfio gwladwriaeth hollol annibynnol o Loegr.
Pwrpas Byddin Genedlaethol Iwerddon, felly, oedd amddifyn y sefydliadau a grewyd o ganlyniad i'r Cytundeb.
|