Enw llawn | Clwb Pêl-droed Airbus U.K | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | The Wingmakers | ||
Sefydlwyd | 1946 (fel Vickers-Armstrong) | ||
Maes | The Airfield, Brychdyn | ||
Cadeirydd | Paul McKinlay | ||
Rheolwr | Andy Thomas | ||
Cynghrair | Cymru North (II) | ||
2023-24 | 3 | ||
|
Clwb pêl-droed o dref Brychdyn, Sir Y Fflint yw Clwb Pêl-droed Airbus UK Brychdyn (Saesneg: Airbus UK Broughton Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru.
Ffurfiwyd y clwb ym 1946 fel clwb pêl-droed ffatri awyrennau Vickers-Armstrong sydd, erbyn heddiw, yn berchen i gwmni Airbus. Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Y Maes Awyr, maes sy'n dal uchafswm o 1,600 o dorf.
Ffurfwyd y Clwb ym 1946, fel CPD Vickers-Armstrong ac ers hynny mae'r clwb wedi newid eu henwau wrth i'r ffatri newid perchnogaeth. Dros y blynyddoedd maent wedi eu hadnabod fel de Havillands, Hawker Siddeley, British Aerospace, a BAE Systems.
Ar ôl treulio blynyddoedd yng Nghynghreiriau Caer a'r Cyffiniau ac Ardal Wrecsam, dechreuodd y clwb esgyn trwy'r cynghreiriau cyn sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Undebol Cymru ar ddiwedd tymor 1999–2000[1]. Yn eu tymor cyntaf yn y Gynghrair Undebol newidiwyd eu henwau i Airbus UK a sicrhawyd dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwedd tymor 2003-04[2].
Llwyddodd y clwb i sicrhau eu lle yn nghystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf yn 2013-14 ac er sicrhau dwy gêm gyfartal yn erbyn Ventspils o Latfia, colli oedd hanes Airbus diolch i'r rheol goliau oddi cartref.
Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Cymal 1af | 2il Gymal | Dros Ddau Gymal |
---|---|---|---|---|---|---|
2013–14 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Ventspils | 1–1 | 0–0 | 1–1 (a) |
2014–15 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | FK Haugesund | 1-1 | 1-2 | 2–3 |
2015–16 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Lokomotiva Zagreb | 1-3 |
Cynghrair Undebol, 2018-19 | ||
---|---|---|
Airbus UK |
Bangor |
Bwcle |
Cegidfa |
Conwy |
Dinbych |
Gresffordd |
Hotspur Caergybi | |
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)