Enw llawn | Goytre United Football Club | ||
---|---|---|---|
Maes | Stadiwm Parc Glenhafod (sy'n dal: 4,000 (350 sedd)) | ||
Rheolwr | Andy Hill | ||
Cynghrair | Cynghrair Cymru (Y De) | ||
2023/2024 | Cynghrair Cymru (Y De), 8 | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
|
Lleolir Clwb Pêl-droed Goytre United ym mhentref Goetre, ger Port Talbot. Maent yn chwarae yng Nghyngrair Cymru (Y De) (y Welsh League, sef ail haen pêl-droed Cymru, nid Uwch Gynghrair Cymru). Er gwaetha'r ffaith iddynt ennill Cynghrair Gyntaf, Cynghrair Cymru (De) yn 2005–06 a 2007–08 ni ddyrchafwyd nhw i Uwch Gynghrair Cymru.
Maent yn chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Parc Glenhafod.
Sefydlwyd y Clwb yn 1963 gan chwarae yng Nghynghrair Ardal Port Talbot (Port Talbot and District Football League) a cael eu dyrchafu i Gynghrair Amatur De Cymru (South Wales Amateur League) ar ddiwedd y 1960au. Agorwyd Clwb Cymdeithasol Goytre United yn 1982 gan ddod ag incwm i'r clwb.
Mae Goytre United yn hynod am iddynt ennill Y Gynghrair Gymreig dair gwaith ond nad ydynt wedi dyrchafu i Uwch Gynghrair Cymru. Mae sawl rheswm am hyn, heb os mae criteria llym ar adnoddau a strwythur sydd angen eu cyrraedd ar stadiwm timau yr Uwch Gynghrair yn ffactor.
Cynghrair Cymru (Y De) (Welsh Football League)
Cwpan Her Cynghrair Port Talbot (Port Talbot League Challenge Cup)
Prif Adran Cynghrair Port Talbot (Port Talbor League Premier Division)
Adran 2 Cynghrair Amatur De Cymru (South Wales Amateur League Division 2)
Cwpan Her Port Talbot (Port Talbot Challenge Cup)
Adran Tri Cynghrair Cymru (Welsh League Division Three)
Cynghrair Eilyddwyr Cynghrair Cymru (Welsh League Reserve Division)
Adran 2 Cynghrair Cymru (Welsh League Division Two)
Cwpan Cynghrair Eilyddwyr Cymru (Welsh League Reserve Division Cup)
Adran Un Cynghrair Cymru (Welsh League Division One)
Cwpan Shamrock Travel Cynghrair Cymru (Welsh League Shamrock Travel Cup)
Cynghrair Cymru (Y De), 2018-19 | ||
---|---|---|
Cambrian a Clydach | Celtic Cwmbrân | Cwmaman | Ffynnon Taf | Goytre | Goytre Unedig | Gwndy | Hwlffordd | Lido Afan | Llanilltyd Fawr | Llansawel | Pen-y-bont | Tref Pontypridd | Port Talbot | Rhydaman | Ton Pentre | |