![]() | |
Enghraifft o: | clwb pêl-droed ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1864 ![]() |
Lleoliad | Wrecsam ![]() |
Perchennog | Ryan Reynolds, Rob McElhenney ![]() |
Pencadlys | Wrecsam ![]() |
Enw brodorol | Wrexham A.F.C. ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwefan | https://www.wrexhamafc.co.uk/ ![]() |
![]() |
![]() | ||||
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Wrecsam | |||
---|---|---|---|---|
Llysenw(au) | Y Dreigiau | |||
Sefydlwyd | 1864[1] | |||
Maes | Y Cae Ras | |||
Cadeirydd | Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam | |||
Rheolwr |
![]() | |||
Cynghrair | Adran Gyntaf | |||
|
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn glwb pêl-droed yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n chwarae yn yr Adran Gyntaf ac a sefydlwyd yn 1864.[2] Cae Ras yw stadiwm a maes y Clwb, maes sydd wedi cynnal gemau rhyngwladol Cymru (pêl-droed a rygbi'r undeb) yn ogystal â bod yn gartref i'r 'Dreigiau'; yn hanesyddol adnabyddir y clwb fel y Robins. Dyma stadiwm rhyngwladol hynaf y byd.[3]
Yn 2011, yn dilyn trafferthion ariannol, prynwyd Y Cae Ras gan Brifysgol Glyndŵr; nid yw'r cytundeb yma'n cynnwys y clwb pel-droed na'r clwb rygbi'r cynghrair, ond mae'n caniatáu iddyn nhw barháu i ddefnyddio'r cyfleusterau. "Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam" yw perchnogion y clwb.[4][5] Erbyn Mai 2015, roedd gan y Clwb 4,129 o aelodau (oedolion a chyd-berchnogion).[6]
Mae'r record am y nifer mwyaf o gefnogwyr yn mynd nôl i 1957 pan chwaraewyd yn erbyn Manchester United F.C. gyda 36,445 o gefnogwyr yn gwylio.[7]
Mae gan y clwb nifer o ymrysonau â chlybiau Seisnig, gan gynnwys Dinas Caer a'r Amwythig. Ymhlith y gemau mwyaf cofiadwy y mae'r gêm yn erbyn Arsenal F.C. yn 1992, a oedd ar frig Cwpan yr FA ar y pryd. Llwyddodd y Clwb hefyd i drechu FC Porto yn 1984 yng Nghwpan Ewrop.
Ceir hefyd clwb pêl-droed a strwythur ar gyfer pêl-droed i fenywod. Mae C.P.D. Merched Wrecsam yn rhan o system Cynghreiriau Adran Cymru.
Cafodd y clwb ei ffurfio yn 1872 (yn ôl bathodyn y clwb, 1873 oedd y flwyddyn). Cafodd ei groesawu i Gynghrair Lloegr yn 1921.
Mae'r clwb wedi cynyrchioli Cymru yn Ewrop sawl gwaith yn sgil ennill Cwpan Cymru. Gwnaethon nhw guro nifer o dîmau enwog, ac yn 1976 wnaethon nhw gyrraedd yr wyth olaf y European Cup Winners' Cup, cyn colli i Anderlecht o Wlad Belg.
Yn 2005 cipiwyd yr LDV Vans Trophy gan Wrecsam. Chwaraewyd y gêm yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn erbyn Southend F.C. gyda Darren Ferguson a Juan Ugarte'n sgorio mewn buddigoliaeth o 2-0.
Disgynodd y clwb allan o Gynghrair Lloegr yn nhymor 2007/08 ar ôl treulio 87 mlynedd ynddi.
Yn 2013, aeth Wrecsam i chwarae ddwywaith yn Stadiwm Wembley yn Llundain ar ôl ennill yn rownd derfynol Tlws yr FA yn erbyn Grimsby a cholli yn rownd derfynol gemau ail-gyfle'r gynghrair yn erbyn Casnewydd.