Cadwallon Lawhir

Cadwallon Lawhir
Ganwydc. 460 Edit this on Wikidata
Bu farw534 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
TadEinion Yrth ap Cunedda Edit this on Wikidata
PlantMaelgwn Gwynedd Edit this on Wikidata

Roedd Cadwallon ap Einion (460? — 534), a adwaenir fel Cadwallon Lawhir, yn frenin Gwynedd.

Yn ôl y traddodiad, teyrnasai Cadwallon ychydig ar ôl brwydr Mynydd Baddon (sy'n cael ei dyddio rhwng 490 a 510) a buddugoliaeth Arthur dros y Saeson.

Ei brif orchest yn ystod ei deyrnasiad oedd gorchfygu'r Gwyddelod oedd wedi ymsefydlu ar Ynys Môn. Wedi hyn daeth yr ynys yn rhan bwysig iawn o deyrnas Gwynedd.

Cafodd yr enw Cadwallon, Lawhir, mae'n ymddangos, oherwydd fod ganddo freichiau anarferol o hir. Yn ôl Iolo Goch gallai godi carreg o'r llawr i ladd brân heb orfod plygu ei gefn, gan fod ei freichiau yn cyrraedd at y llawr.

Dilynwyd ef ar yr orsedd gan ei fab Maelgwn Gwynedd. Mae'r ffaith fod Gildas yn cyhuddo Maelgwn o fod wedi lladd ei ewythr a chymeryd ei deyrnas yn awgrymu fod yr ewythr hwn wedi teyrnasu rhwng Cadwallon a Maelgwn, ond nid ymddengys fod cofnod o bwy ydoedd.

O'i flaen :
Einion Yrth ap Cunedda
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Maelgwn Gwynedd