Math | Roman military frontiers and fortifications, gwersyll milwrol, heneb, adeilad Rhufeinig |
---|---|
Enw brodorol | castrum |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Caerau Rhufeinig (unigol: Caer Rufeinig) yw'r term Cymraeg am y gwersylloedd amddiffynnol a elwir yn Castra (unigol: castrum) yn Lladin.
Ceir sawl math o gaerau Rhufeinig: rhai parhaol, rhai a ddefnyddid yn yr haf yn unig a rhai dros dro. Gallai'r maint hefyd amrywio'n fawr, o gaer ar gyfer Lleng Rufeinig gyfan, er enghraifft Caerllion, i gaer ar gyfer nifer fychan o filwyr cynorthwyol. Gallent fod wedi eu hadeiladu o gerrig neu o goed gyda chloddiau pridd. Er hynny, roedd y cynllun sylfaenol yr un fath ym mhob un ohonynt (gweler y diagram). Roedd y gaer yn betrual, gyda chorneli crwm, tebyg i ffurf cerdyn chwarae. Tu mewn i'r muriau, roedd dwy brif ffordd: y via principalis a'r via praetoria yn cyfarfod yn y canol. Yma y ceid y praetorium, lle roedd yr adeiladau neu bebyll i lywodraethwyr y gaer.
Mae "Caer" yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru, e.e. Caerdydd, Caernarfon.