Math | tref, plwyf sifil, fortified town |
---|---|
Poblogaeth | 11,630 |
Gefeilldref/i | City of Casey, Haan, Sarpsborg, Berwick, Trzcianka |
Daearyddiaeth | |
Sir | Northumberland (sir seremonïol ac awdurdod unedol) |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Afon Tuedd |
Cyfesurynnau | 55.7692°N 2.0025°W |
Cod SYG | E04010744 |
Cod OS | NT995525 |
Cod post | TD15 |
Tref a phlwyf sifil yn Northumberland, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Caerferwig (Saesneg: Berwick-upon-Tweed).[1] Saif ger aber Afon Tuedd 2.5 milltir (4 km) i'r de o'r ffîn rhwng Lloegr a'r Alban. Hi yw'r dref fwyaf gogleddol Lloegr.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 12,043.[2]
Mae Caerdydd 482.8 km i ffwrdd o Caerferwig ac mae Llundain yn 489.1 km. Y ddinas agosaf ydy Caeredin sy'n 75 km i ffwrdd.
Bu llawer o ymladd rhwng yr Alban a Lloegr o'r 11g ymlaen ynghych Caerferwig, a bu'n rhan o'r ddwy wlad ar brydiau. Wedi i Edward I, brenin Lloegr gipio'r dref yn 1296, lladdodd nifer fawr o'r trigolion. Mae wedi bod yn rhan o Loegr ers 1482.
Erys nifer o gysylltiadau a'r Alban, er enghraifft mae timau peldroed a rygbi'r undeb y dref yn chwarae yng nghyngrair yr Alban yn hytrach na Lloegr. Roedd Deddf Cymru a Berwick 1746 yn datgan fod unrhyw gyfeiriad at "Lloegr" yn cynnwys Cymru a Chaerferwig.
Trefi
Alnwick ·
Amble ·
Ashington ·
Bedlington ·
Blyth ·
Caerferwig ·
Cramlington ·
Haltwhistle ·
Hexham ·
Morpeth ·
Newbiggin-by-the-Sea ·
Ponteland ·
Prudhoe ·
Rothbury ·
Wooler