Math o gyfrwng | drama lwyfan |
---|---|
Awdur | Albert Camus |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | Mai 1944 |
Genre | Theatr yr absẃrd |
Cyfres | The strange writer |
Cymeriadau | Caligula, Drusilla, Cherea, Scipio, Mucius’ wife, Caesonia, Helicon, Mucius, Octavius, Lucius |
Drama lwyfan gan Albert Camus yw Caligula. Dechreuodd ei chyfansoddi ym 1938 (dyddiad y llawysgrif gyntaf yw 1939 ) ac a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym mis Mai 1944 gan Éditions Gallimard . [1] Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf ar 26 Medi 1945 yn y Théâtre Hébertot ym Mharis, gyda Gérard Philipe (Caligula), Michel Bouquet a Georges Vitaly yn serennu ac fe'i cyfarwyddwyd gan Paul Œttly.
Cyfeithiwyd y ddrama i'r Gymraeg sawl gwaith, y tro cyntaf gan J. Ifor Davies ar gyfer Radio'r BBC ym 1967[2] ac wedyn gan Emyr Tudwal Jones a Prys Morgan ym 1975, a'i chyhoeddi fel rhan o'r Gyfres Dramâu'r Byd gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1978. Cafwyd addasiad arall (yn seiliedig ar gyfeithiad 1975) gan gwmni theatr Arad Goch ym 1990, o dan yr enw Cai.
Mae nifer o feirniaid wedi awgrymu bod y darn yn ddirfodol, er bod Camus bob amser yn gwadu ei fod yn perthyn i'r athroniaeth hon.[3] Mae ei gynllwyn yn troi o amgylch ffigwr hanesyddol Caligula, Ymerawdwr Rhufeinig sy'n enwog am ei greulondeb a'i ymddygiad ymddangosiadol gwallgof.
Mae'r ddrama'n cyfleu hanes Caligula, Ymerawdwr Rhufain, wedi'i lethu gan farwolaeth Drusilla, ei chwaer a'i gariad. Yn ôl drama Camus, mae Caligula'n creu drwgdeimlad bwriadol er mwyn arwain tuag at ei lofruddiaeth ei hun. (Yn hanesyddol, llofruddiwyd Caligula ar 24 Ionawr, 41 OC)
Breuddwyd Caligula yw i "greu bywyd sydd uwchlaw moesau ffals a thraddodiadau pwdr y gymdeithas sydd o'i gwmpas."[4] Mae'r ddrama yn dehongli'r gwrthdaro rhwng yr hen a'r ifanc, rhwng y traddodiadol a'r cyfoes. "Ond ynddi hefyd, gwelir materoliaeth -'decadence'- y tra-arglwyddiaethu ar unrhyw ronyn o fywyd gonest." Unben yw'r prif gymeriad. "Nid drama wleidyddol mohoni, ond moeswers - ac fel pob moeswers dda y mae uwchlaw y 'politics' bondigrybwyll 'na. Ymysg ei düwch a diffyg gobaith, drama ydyw am y berthynas glos ac angenrheidiol rhwng yr hen a'r ifanc, am y cwlwm rhwng y traddodiadol a'r cyfoes ac am y frwydr barhaol dros gyfiawnder a rhyddid"[4]
Yn ôl Albert Camus, "Mae Caligula, tywysog sy'n ymddangos yn garedig, yn sylweddoli ar farwolaeth Drusilla (ei chwaer a'i feistres) fod dynion yn marw yn anhapus. Wedi'i obsesiwn o ymchwil am yr Absoliwt a'i wenwyno gan ddirmyg ac arswyd, mae'n ceisio rhyddid drwy lofruddiaeth a gwyrdroi pob gwerth yn systematig, ond yn darganfod yn y diwedd nad yw hynny yn wir ryddid. Mae'n cefnu ar gyfeillgarwch a chariad, at y da a'r drwg. Mae'n eu gorfodi i resymegu drwy rym, a chan gynddaredd dinistr sy'n gyrru ei angerdd am fywyd."
Yn y rhaglen addasiad Arad Goch o'r ddrama ym 1990, mae Emyr Tudwal Jones yn cyflwyno'r cynhyrchiad fel â ganlyn:
" 'Rwyt ti'n bur yn y da fel rydw i'n bur yn y drwg' meddai Caligula, Ymerawdwr ifanc Rhufain wrth Scipio, bardd ifanc a chyfaill iddo, yng nghanol y ddrama. Y ddau begwn hyn sydd wrth wraidd drama Albert Camus. Bradychu yw cyfaddawdu mewn byd nad oes iddo unrhyw reswm. Rhaid byw pob eiliad i'r eithaf—nid oes le i foesau parchus nac i ryw berchentŷaeth dosbarth canol. Ond yn y byd wyneb i waered hwn, mae'n anodd gwahaniaethu rhwng y drwg a'r da. Ai'r Ymerawdwr gwaedlyd, sy'n amlwg wedi colli arno, a'i Scipio, y ffwl diniwed, a gynrychiolai'r da? Onid Cerea - sy'n barchus a diwylliedig a rhesymegol - yw'r un a ddaw a modus vivendi i fyd Rhufain unwaith eto? 'Rwyf eto'n fyw', meddai Caligula ar ddiwedd y ddrama - cwestiwn? Er gwaethaf camweddau Gaius (Caligula), y peth cyntaf a wnaeth ei ddilynydd fel Ymerawdwr, Claudius, oedd dienyddio Cerea, am iddo ladd Ymerawdwr. Aethom ati, Prys Morgan ac Emyr Tudwal Jones, i gyfieithu'r ddrama hon bymtheng mlynedd yn ôl—1975. A ninnau'n ifanc. Roeddem ein dau yn blant y chwedegau - degawd a'i gollfarnir cymaint gan ein harweinwyr y dyddiau hyn. Drama ar gyfer y genhedlaeth honno—ac i ddelfrydau a gweledigaeth cenhedlaeth gyffelyb [...] yw [...] Caligula gan Albert Camus."
Y fersiwn derfynol yw'r fersiwn pedair act o 1944, a gyhoeddwyd gyntaf ar y cyd â The Misunderstanding ac yna ei chyhoeddi'n annibynnol yn yr un flwyddyn. Ceir fersiwn tair act o 1941, a ail-gyhoeddwyd ym 1984, yn y casgliad Cahiers Albert Camus. Mae'r newidiadau rhwng y fersiynau yn dangos effaith yr Ail Ryfel Byd ar Camus. Mae'r ddrama yn sail i opera Almaeneg 2006 o'r un enw gan Glanert.
Bu'r ddrama yn destun diwygiadau niferus. Mae'n rhan o'r hyn a alwodd Camus yn "Cylch yr Abswrd", ynghyd â'r nofel The Stranger (1942) a'r traethawd The Myth of Sisyphus (1942).[5]
Fel nodwyd uchod, darlledwyd addasiad radio J. Ifor Davies o'r ddrama ar Radio'r BBC ym 1967.[2] Ymysg y cast roedd Gwenyth Petty a Wyn Thomas fel Caligula.
Llwyfannwyd addasiad o'r ddrama gan Arad Goch ym 1990 o dan yr enw Cai. Cyfarwyddwr Jeremy Turner; cynllunydd John Jenkins; gwisgoedd Patricia Treloar; deunydd hysbysebu Ruth Jên; cast: