![]() | |
Enghraifft o: | math o chwaraeon ![]() |
---|---|
Math | chwaraeon tîm ![]() |
![]() |
Mae camógaíocht (ynghaniad Gwyddeleg: [kəˈmˠoːɡiːxt̪ˠ]); a elwir yn camogie (kəˈmoʊɡi/ kə-MOH-ghee) yn Saesneg) yn gamp tîm ffon a phêl Gwyddelig a chwaraeir gan fenywod. Chwaraeir camógaíocht gan 100,000 o ferched yn Iwerddon a ledled y byd, yn bennaf ymhlith cymunedau Gwyddelig.[1][2]
Mae amrywiad o'r gêm "hurling" (sy'n cael ei chwarae gan ddynion yn unig), ac yn cael ei threfnu gan y Gymdeithas Camogie o Ddulyn neu An Cumann Camógaíochta.[3][4] Gwelwyd y dorf fwyaf i'r gêm ym Mhencampwriaeth Camogie flynyddol Iwerddon Oll sef 33,154 o bobl,[5] tra bod presenoldeb cyfartalog yn y blynyddoedd diwethaf rhwng 15,000 a 18,000. Darlledir y rownd derfynol yn fyw, gyda chynulleidfa deledu o gynifer â dros 300,000.[6]
Mae UNESCO yn rhestru Camogie fel elfen o Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol.[7] Cyfeirir at y gêm yn Wrth aros Godot gan y dramodydd Gwyddelig Samuel Beckett.
Yn wahanol i hyrli, mae gan dîm mewn camogie 12 chwaraewr yn lle 15 i'r dynion, ac mae’r ffyn hefyd ychydig yn llai.
Mae chwaraewyr camógaíocht yn defnyddio ffon o'r enw hurley i yrru pêl o'r enw sliotar i mewn i gôl y gwrthwynebydd neu i gyd-chwaraewr. Gall chwaraewyr ddal y bêl a rhedeg gyda hi am hyd at bum cam cyn y bydd yn rhaid ei phasio. Mae'r gôl yn edrych fel cyfuniad o gôl pêl-droed ac un rygbi. Mae gôl sy'n rhwydo o dan y traws siâp 'H' yn werth tri phwynt, ac mae gôl (dros y traws) yn werth un pwynt. Mae gemau camogie yn cael eu chwarae ar gae rhwng 130 a 145 metr o hyd a 80 i 90 metr o led (ychydig yn fwy na chae pêl-droed).
Mae pob gêm yn para 60 munud. Cynhelir y rowndiau terfynol yn flynyddol ym Mharc Croke ym mis Medi, fel arfer rhwng wythnos y rownd derfynol hyrli a rownd derfynol pêl-droed Gwydddelig. Mae dwy brif gystadleuaeth, sef y Gynghrair Genedlaethol a gynhelir yn ystod y gaeaf a’r gwanwyn ac a ddefnyddir fel cynhesu ar gyfer Pencampwriaeth Iwerddon a gynhelir yn ystod yr haf .
Bydd timau'n cystadlu i ennill Cwpan O'Duffy, sef y wobr i enillydd Pencampwriaeth Camógaíocht Hŷn Iwerddon. Swydd Dulyn sydd wedi ennill y nifer fwyaf o deitlau gyda 26, yr olaf yn 1984. Kilkenny sydd â'r record am y nifer fwyaf o deitlau yn olynol gyda saith, rhwng 1985 a 1991. Mae Camogie wedi bodoli ers 1904 ac yn cael ei chwarae gan dros 100,000 o chwaraewyr mewn 550 o glybiau, yn bennaf yn Iwerddon ond hefyd yn Ewrop, Gogledd America, Asia ac Ynysoedd y De. Mae timau o 32 sir Iwerddon a rhai timau tramor yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Camógaíocht Iwerddon Gyfan flynyddol. Mae'r bencampwriaeth yn denu hyd at 35,000 o wylwyr ac yn cael ei darlledu ar deledu Gwyddelig.[8][9]
Dyfeisiwyd yr enw gan Tadhg Ua Donnchadha (Tórna) mewn cyfarfodydd yn 1903 cyn y gemau cyntaf yn 1904.[10] Mae'r term camógaíocht yn deillio o enw'r ffon a ddefnyddir yn y gêm. Mae dynion yn chwarae hyrddio gan ddefnyddio ffon grwm o'r enw camán yn y Wyddeleg. Defnyddiodd merched yn y gemau cynnar ffon fyrrach a ddisgrifiwyd gan y ffurf fach camóg. Ychwanegwyd yr ôl-ddodiad -aíocht ("uidheacht" yn wreiddiol) at y ddau air i roi enwau ar y mabolgampau: camánaíocht a chamógaíocht. Pan sefydlwyd y GAA ym 1884 rhoddwyd yr enw tarddiad Saesneg "hurling" i gêm y dynion. Pan sefydlwyd mudiad i ferched yn 1904, penderfynwyd Seisnigo'r enw Gwyddeleg camógaíocht i camogie.[1]