Math | analog camera, point-and-shoot camera |
---|---|
Cynnyrch | Polaroid print |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o gamera sy'n defnyddio ffilm sy'n datblygu ei hun er mwyn creu print o lun yn fuan ar ôl ei dynnu yw camera sydyn. Polaroid Corporation wnaeth arloesi gyda chamerâu a ffilm sydyn oedd yn addas i brynwyr, a dilynwyd hwy wedyn gan amryw o wneuthurwyr eraill.
Dywedir mai'r gwyddonydd Americanaidd Edwin Land ddyfeisiodd gamera sydyn, rhwydd i'w ddefnyddio, ac y gellid ei werthu. Ef wnaeth gyflwyno'r camera sydyn masnachol cyntaf, y model 95 Land Camera, yn 1948, a hynny flwyddyn ar ôl cyflwyno'r ffilm sydyn yn Ninas Efrog Newydd. Cafodd y camera sydyn cynharaf, oedd yn cynnwys camera ac ystafell dywyll fechan, ei ddyfeisio yn 1923 gan Samuel Shlafrock.[1]
Cyrhaeddodd y camera sydyn frig ei boblogrwydd ar ddiwedd y 1970au. Wedi hynny, daeth camerâu newydd, llai eu maint a rhatach, i'w ddisodli, a daeth dyfeisiadau recordio fideo hefyd ar werth. Mae'r camera sydyn yn dal i gael cyfnodau o boblogrwydd, ond fel tegan neu declyn 'retro' a hynod yn hytrach na chamera at ddibenion ffotograffiaeth broffesiynol neu ddefnydd o ddydd i ddydd.[2]