Mae cancel culture (diwylliant diddymu) yn derm o Unol Daleithiau America[1] sy'n cyfeirio at fath fodern o ostraciaeth neu ddiarddeliad, lle mae rhywun yn cael ei wthio allan o gylchoedd cymdeithasol neu broffesiynol - boed hynny ar-lein, ar y cyfryngau torfol, neu yn y cnawd. Dywedir bod y rhai sy'n cael eu diarddel yn y modd hyn wedi'u "canslo".[2]
Gellir ei ddisgrifio fel math o foicotio yn ymwneud ag unigolyn (rhywun enwog fel arfer) lle ystyrir eu bod wedi gweithredu neu siarad mewn modd amheus neu ddadleuol.[3] Gall diddymiad arwain at golli enw da ac incwm - sefyllfa sy'n anodd adfer ohono.[4]
Yn ôl y seicolegydd cymdeithasol Jonathan Haidt, mae'r diwylliant hwn yn deillio o'r hyn mae'n alw'n "safetyism" ar gampysau colegau. Dywed rhai ei fod yn arwain at bolareiddio cymdeithas ymhellach. Gwelir fod rhai myfyrwyr yn ofni mynegi syniadau amhoblogaidd rhag ofn cael eu beirniadu'n hallt ar gyfryngau cymdeithasol. Gall hyn arwain at golli lleisiau a llai o amrywiaeth o ran y lleisiau a glywir.
Yn ôl dadansoddwyr eraill, nid yw cysyniad cancel culture yn bodoli o gwbl, gan nad diwylliant mohono, ac nid oes tystiolaeth o effeithiau negyddol beirniadu cyhoeddus.[5][6] Er enghraifft, mae enwogion megis Louis C.K. a Harvey Weinsten sydd wedi cael eu condemnio'n helaeth, yn dal i lwyddo cynnal bywyd cyhoeddus.[6] Yn wir, mae rhai yn dadlau bod y cysyniad yn cael ei ddefnyddio er mwyn atal lleisiau ymgyrchwyr yn erbyn hiliaeth, islamoffobia a mathau eraill o wahaniaethu[7][6].
Mae gan yr ymadrodd ystyr negyddol ar y cyfan ac fe'i defnyddir yn gyffredin mewn dadleuon ar ryddid barn a sensoriaeth.