Enghraifft o'r canlynol | maritime accident investigation agency |
---|---|
Rhan o | Yr Adran Gludiant |
Dechrau/Sefydlu | 1989 |
Pencadlys | Southampton |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.gov.uk/government/organisations/marine-accident-investigation-branch |
Cangen o Adran Drafnidiaeth y Deyrnas Unedig yw'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (Saesneg: Marine Accident Investigation Branch; MAIB). Sefydlwyd ym 1989 yn sgil trychineb yr MS Herald of Free Enterprise, a suddodd ger Zeebrugge ym 1987 gan ladd 193 o bobl.
Mae'r MAIB yn ymchwilio i ddamweiniau morol i longau’r DU ledled y byd neu ar eu bwrdd, a llongau eraill yn nyfroedd tiriogaethol y DU.[1]