Cannabis indica | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
Ddim wedi'i restru: | Rosids |
Urdd: | Rosales |
Teulu: | Cannabaceae |
Genws: | Cannabis |
Rhywogaeth: | C. indica |
Enw deuenwol | |
Cannabis indica Lam. |
Planhigyn unflwydd yn nheulu'r Cannabaceae yw Cannabis indica, a adnabuwyd gynt fel Cannabis sativa forma indica sy'n aelod tybiedig o'r tylwyth Canabis; aelod arall o'r teulu hwn yw Cannabis sativa.
Tyfir planhigion Cannabis indica llydanddail yn India, Affganistan, Bangladesh a Pacistan er mwyn cynhyrchu hashish. Yn gemegol, mae'r math hwn yn llawer cryfach o ran y cyffur sydd ynddo na C. sativa: hy mae'r lefel o CBD yn uwch.[1] Ond mae yna fath masnachol o indica a fagwyd yn fwriadol er mwyn cael lefel uchel o CBD. Disgrifir y wefr a geir o gymryd Cannabis indica fel "body buzz" ac mae'n gryn effeithiol fel cyffur i atal poen neu ar gyfer anhwylder fel diffyg cwsg.
Ymhlith y bridiau o indica a fagwyd ar gyfer difyrrwch neu feddygol y mae Kush a Golau'r Gogledd.