Is-genre o ganu gwlad Americanaidd oedd â'i hoes aur yn y 1940au[1] yw canu'r Tir Glas[2] (Saesneg: bluegrass music). Prif nodweddion y math hwn o gerddoriaeth yw tempo cyflym, a defnydd blaenllaw o'r ffidl, y banjo, a'r mandolin.[1] Ystyrid Bill Monroe yn brif arloeswr canu'r Tir Glas,[1] a daw enw'r genre o'i fand y Blue Grass Boys.[3]
Datblygwyd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gyda'i gwreiddiau yng ngherddoriaeth bandiau llinynnol hen ffasiwn megis y Teulu Carter.[3] Ei phrif wahaniaethau ar ei ffurfiau cynt yw rhythm trawsacennog, prif lais tenor uwch ei draw, ei harmonïau cyfyngedig, a dylanwadau cryf gan cerddoriaeth Affro-Americanaidd,[4] drwy jazz a'r felan.[5],[3] Mae canu'r Tir Glas yn cyfuno elfennau o ddawns, adloniant y cartref, a cherddoriaeth werin grefyddol ucheldiroedd De Ddwyrain yr Unol Daleithiau, ond â'i gwreiddiau'n ddwfn yn nhraddodiadau'r Alban, Iwerddon a gogledd Lloegr.
Chwaraeir offeryn amlycaf y genre, y banjo, yn y dull tri bys a ddatblygwyd gan Earl Scruggs.[3] Caneuon gwerin traddodiadol,[4] gan gynnwys alawon dawnsio sgwâr, caneuon crefyddol, a baledi, yw'r mwyafrif o repertoire y Tir Glas,[3] ond ceir hefyd caneuon newydd, gwreiddiol.[4]
Yn y 1970au ymddangosodd grwpiau newgrass (neu ganu'r Tir Glas blaengar) a wnaeth cyfuno dulliau traddodiadol canu'r Tir Glas â thechnegau cerddoriaeth roc.[4]