Adeilad eglwysig o fewn plwyf, ond sydd ddim yn eglwys plwyf yw capel anwes, fel bod y bobl sydd ddim yn gallu cyrraedd eglwys y blwyf yn hawdd yn gallu mynychu. Yn aml, adeiladir capel anwes yn bwrpasol fel bod y plwyfolion yn gallu ei chyrraedd yn haws na'r brif eglwys. Yn aml, bydd capel fel hyn yn bodoli er mwyn gwasanaethu plwyfi gwledig sy'n cynnwys nifer o bentrefi ar wasgar.
Maen rhai achosion, mae capeli anwes yn gyn eglwysi plwyf, a ddaeth yn gapeli anwes pan adeiladwyd eglwys mwy ar gyfer y pwrpas. Er wngraifft, bu capel canoloesol Sant Nicolas yn Norton, Swydd Hertford, yn gwasanaethu'r plwyf am ganrifoedd hyd i dref newydd Letchworth gael ei adeiladu, felly daeth Sant Nicolas yn rhy fychain i wasanaethu'r boblogaeth wedi iddo gynyddu. Adeiladwyd eglwys plwyf newydd a daeth Sant Nicolas yn gapel anwes.
Weithiau, bydd capeli anwes yn gysylltiedig gyda maenordai mawr, fel lle cyfleus i teulu a staff y faenor allu addoli. Mae esiamplau yn cynnwys Eglwys Newydd ar ystâd Hafod Uchtryd yng Ngheredigion[1] a chapel anwes Pedlinge, Caint.[2]
Pan fydd poblogaeth yn symyd, gall y capel anwes a'r eglwys blwyf hynafol newid swyddogaeth, megis yn achos capeli Sant Mary Wiston ac eglwys All Saints, Buncton yng Ngorllewin Sussex. Eglwys Sant Mary, ger Wiston House oedd eglwys y plwyf am ganrifoedd, ta bu eglwys All Saints yn gapel anwes yn Buncton gerllaw. Erbyn hyn, ychydig iawn yw poblogaeth Wiston, tra bod Buncton wedi tyfu ac felly yn 2007, daeth All Saints yn eglwys blwyf, a Sant Mary yn gapel anwes.[3]
Pan gaiff sawl plwyf eu cyfuno, gall eglwysi'r hen blwyfi gael eu cadw fel capeli anwes, megis yn Palo Alto, California, pan gyfuwyd chwe plwyf Esgobaeth Gatholig San Jose yn 1987, gan ffurfio un plwyf Saint Thomas Aquinas. Eglwys Sant Thomas Aquinas yw'r egwlys blwyf erbyn hyn, a defnyddir eglwysi Our Lady of the Rosary a St. Albert the Great fel capeli anwes.