Cyfres o nofelau plant darluniedig gan yr awdur a'r darlunydd Americanaidd Dav Pilkey yw Captain Underpants. Mae'r gyfres yn seiliedig ar anturiaethau dau fachgen, George Beard a Harold Hutchins, sy'n byw yn Piqua, Ohio, a 'Captain Underpants', arwr un o'r llyfrau comig mae'r bechgyn yn ei greu. Yn y gyfres, mae'r cymeriad comig Captain Underpants yn dod yn berson 'go iawn' ar ôl i George a Harold hypnoteiddio eu prifathro blin, Mr Krupp. Mae Mr Krupp yn datblygu uwch-bwerau trwy yfed suddion estron yn y trydydd llyfr.
Ar ddechrau 2019, roedd y gyfres yn cynnwys 12 llyfr a 10 o weithiau deilliedig, ac enillodd Wobr Dewis y Plant gan Disney Adventures ar 4 Ebrill 2006. Ers 2016, mae'r gyfres wedi'i chyfieithu i dros 30 o ieithoedd,[1] gyda dros 80 miliwn o lyfrau wedi'u gwerthu ledled y byd,[1] gan gynnwys dros 50 miliwn yn yr Unol Daleithiau.[2] Llwyddodd DreamWorks Animation i sicrhau'r hawl i wneud addasiad ffilm animeiddiedig a rhyddhawyd y ffilm ar 2 Mehefin 2017.
Ar ôl i'r brif gyfres gyrraedd ei diwedd gyda'r ddeuddegfed nofel, Captain Underpants and the Sensational Saga of Sir Stinks-A-Lot, yn 2015, rhyddhawyd cyfres o weithiau yn deillio ohoni o'r enw Dog Man yn 2016.[3] Roedd saith o lyfrau'r gyfres hon wedi'u cyhoeddi ar ddechrau 2019.