Carabiner

Carabiner
Mathlifting hook, rock climbing equipment, shackle, arf Edit this on Wikidata
Rhan ooffer Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaclimbing harness, belay device Edit this on Wikidata
Yn cynnwyssbring Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mathau o carabiners

Math arbennig o ddolen fetel gyda gât sbring-lwythog sy'n cael ei ddefnyddio i gysylltu cydrannau yn gyflym, yw carabiner.[1] Mae'n cael ei ddefnyddio gan amlaf mewn systemau diogelwch. Mae'r gair yn ffurf fyrrach o'r gair Almaeneg Karabinerhaken, sy'n golygu "bachyn sbring" a ddefnyddir gan reifflwr cabin i gysylltu eitemau i wregys.[2]

Mae carabiners, a elwir yn aml yn Fodrwyon-D gan filwyr proffesiynol, yn cael eu defnyddio'n helaeth mewn gweithgareddau rhaff fel dringo, coedyddiaeth, ogofa, hwylio, balŵn awyr poeth, paragleidio, achub rhaffau, adeiladu, gwaith rhaff diwydiannol, glanhau ffenestri, achub dŵr gwyn, ac acrobateg. Maent wedi'u gwneud yn bennaf o ddur ac alwminiwm. Mae'r rhai a ddefnyddir mewn chwaraeon yn tueddu i fod yn ysgafnach na'r rhai a ddefnyddir ym myd masnach ac wrth achub gyda rhaffau. Yn aml yn cael eu galw'n glipiau-carabiner neu mini-biners, mae cylchau allweddi carabiner a chlipiau defnydd ysgafn eraill mewn steil a dyluniad tebyg hefyd wedi dod yn boblogaidd. Caiff y rhan fwyaf eu stampio â rhybudd “Ddim ar gyfer Dringo” neu rybudd tebyg oherwydd diffyg o ran profi llwythi a safonau diogelwch mewn gweithgynhyrchu. Er ei fod o safbwynt geirdarddiadol, mae unrhyw ddolen fetel gyda gât sbring yn carabiner, mae'r defnydd llym yn y gymuned ddringo yn cyfeirio'n benodol at y dyfeisiau hynny a weithgynhyrchir ac a brofwyd ar gyfer cludo llwythi mewn systemau sy'n hanfodol ar gyfer diogelwch fel dringo creigiau a mynyddoedd.

Defnyddio carabiner

Defnyddir carabiners ar falwnau aer poeth i gysylltu'r amlen â'r fasged ac maent wedi'u graddio ar 2.5 tunnell, 3 tunnell neu 4 tunnell.[3] Carabiners sydd hefyd yn bachu harnais y sawl sy'n paragleidio at linellau'r gleider.

Mae DMM International Ltd, yr unig gwmni sy'n gweithgynhyrchu carabiners yng ngwledydd Prydain, wedi'i leoli yn Llanberis, Gwynedd.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Climbing Dictionary & Glossary". MountainDays.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-01-03. Cyrchwyd 2006-12-05.
  2. "Online Etymology Dictionary". etymonline.com.
  3. "Cameron Balloons Maintenance Manual (refer to section 6.6.4)". Cyrchwyd 2015-03-28.
  4. "DMM International Ltd". DMM International Ltd.