Carchar Alcatraz

Carchar Alcatraz
MathUnited States Penitentiaries, amgueddfa Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 Awst 1934 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSan Francisco Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau37.83°N 122.42°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganFederal Bureau of Prisons Edit this on Wikidata
Map

Carchardy enwog ar Ynys Alcatraz ym Mae San Francisco, gyferbyn â dinas San Francisco ei hun, yn Califfornia, yr Unol Daleithiau (UDA), yw Carchar Alcatraz. Sefydlwyd carchar diogelwch uchel ar yr ynys yn 1932 a ddaeth yn ddrwgenwog am lymder ei disgyblaeth ac yn ddihareb am rywle amhosibl i ddianc ohono. Serch hynny llwyddodd rhai o'r carcharorion i dorri allan yn 1962 a chafwyd ffilm am y digwyddiad yn 1979. Caewyd fel carchar yn 1969.

Bae San Francisco a'r ynys

Fffilm a ffuglen

[golygu | golygu cod]

Serenodd Burt Lancaster yn y ffilm boblogaidd The Birdman of Alcatraz (1962) am garcharor sy'n treulio ei flynyddoedd yn Alcatraz yn astudio ornitholeg ac sy'n dod yn arbenigwr byd-enwog ar adar.

Yn 1979, saethwyd y ffilm Escape From Alcatraz, yn serennu Clint Eastwood, sy'n seiliedig ar y digwyddiad yn 1962.

Eginyn erthygl sydd uchod am Galiffornia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.