Carmen Callil | |
---|---|
Ganwyd | 15 Gorffennaf 1938 Melbourne |
Bu farw | 17 Hydref 2022 Llundain |
Dinasyddiaeth | Awstralia Y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, critig, cyhoeddwr |
Swydd | beirniad Gwobr Booker, cadeirydd |
Gwobr/au | Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Cyhoeddwr, awdures a beirniad o Awstralia oedd Y Fonesiges Carmen Thérèse Callil, DBE (15 Gorffennaf 1938 – 17 Hydref 2022). Treuliodd y rhan fwyaf o'i gyrfa yn y Deyrnas Unedig. Sefydlodd Virago Press yn 1973. Derbyniodd Fedal Benson gan y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol yn 2017.
Cafodd ei geni ym Melbourne, yn ferch i'r gyfreithiwr ac ysgolhaig Frederick Alfred Louis Callil a'i wraig Lorraine Clare Allen.[1] Cafodd ei addysg mewn dwy ysgol gwfaint yn Awstralia: Star of the Sea a Neuadd Loreto Mandeville.[2] Graddiodd o Brifysgol Melbourne, yna daeth i Ewrop. Roedd hi'n byw yn Llundain ers 1964.