Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig |
Gwlad | Lloegr |
Uwch y môr | 536 metr |
Cyfesurynnau | 52.5819°N 2.935°W |
Manylion | |
Amlygrwydd | 357 metr |
Rhiant gopa | Pumlumon Fawr |
Bryn yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Carneddau Teon[1] neu'r Stiperstones. Saif yn agos at y ffin â Chymru, rhwng trefi Trefesgob ac Amwythig. Mae'r bryn yn codi i uchder o 540 m (1,772 troedfedd) ac mae'n nodedig am yr amlinell creigiog miniog ar ei gopa sy'n ymestyn am 8 km (5 milltir).
Yn ystod Oes yr Iâ ddiwethaf gorweddai'r bryn ar ymyl ddwyreion llen iâ Cymru. Er bod rhewlifoedd yn llenwi'r cymoedd cyfagos, ni wnaethant weithredu'n uniongyrchol ar y bryn ei hun; fodd bynnag, cafodd rewi a dadmer dwys a chwalodd y graig yn sgri a ffufio cerrig brig o gwartsit pigfain.
Mae'n nodedig am ei dorau wedi'u ffurfio o gwartsit. Enwir y prif rai fel a ganlyn, o'r gogledd-ddwyrain i'r de-orllewin:
Mae'r Stiperstones yn Warchodfa Natur Genedlaethol a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.