Cynhelir Carnifal Notting Hill yn Awst, dros gyfnod o dridiau: ar y Sadwrn, y Sul a'r Llun (Gŵyl y Banc) dilynol a hynny yn ardal Notting Hill o Lundain ym Mwrdeisdref Kensington a Chelsea. Mae'n ddigwyddiad blynyddol, ers 1965, [1] a chaiff ei drefnu gan y boblogaeth Garibiaidd, llawer ohonynt wedi byw yma ers y 1950au. Yn ei anterth, ymwelodd 1.5 miliwn o bobl, sy'n ei wneud yn un o wyliau mwyaf Ewrop. Roedd yma garnifal yn 1959, yn Neuadd y Dref, St Pancras er mwyn ceisio llesteirio drwg deimlad rhwng gwahanol hil; fe'i trefnwyd gan Claudia Jones a adnabyddir heddiw fel "Mam y Carnifal". Er i'r ŵyl hon fod yn llwyddiannus, fe'i cynhaliwyd y tu fewn i adeilad am nifer o flynyddoedd. Yn 1966 sefydlwyd carnifal arall yma i ddathlu syniadau'r hipi ac mewn parti stryd aeth y band dur Russell Henderson am dro drwy'r strydoedd. Cyfuniad o'r tri yma ydy'r carnifal presennol, mewn gwirionedd.
Man cychwyn traddodiadol yr ŵyl ydy Emslie Horniman's Pleasance sydd yn Ladbroke Grove.[2][3] Yn y blynyddoedd cynnar, gan nad oedd swyddfa ganolog, gweithredai'r Mangrove Restaurant yn Notting Hill, fel pencadlys, dan drefniant y gŵr o Drinidad, Frank Crichlow.[4]
Cafwyd cryn sylw yn y wasg i derfysg pan ymladdwyd rhai brwydrau stryd gyda'r heddlu yng Ngharnifal 1976,[5] wedi i'r heddlu arestio person am ddwyn. Anafwyd dros gant o'r heddlu yn y terfysgoedd a ddilynodd hynny.[6]