Caroline Rémy de Guebhard | |
---|---|
Ffugenw | Séverine, Arthur Vingtras, Séverin |
Ganwyd | Caroline Rémy 27 Ebrill 1855 Paris |
Bu farw | 24 Ebrill 1929 Pierrefonds |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | ymgyrchydd, newyddiadurwr, llenor, perchennog cyfryngau, ymgyrchydd dros hawliau merched, golygydd |
Plaid Wleidyddol | Adran Ffrengig o'r Gweithwyr Rhyngwladol, Plaid Gomiwnyddol Ffrengig |
Priod | Antoine-Henri Montrobert, Adrien Guébhard |
Partner | Jules Vallès, Georges de Labruyère |
Plant | Roland Guebhard |
llofnod | |
Ffeminist o Ffrainc oedd Caroline Rémy de Guebhard (27 Ebrill 1855 - 24 Ebrill 1929) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd, newyddiadurwr, perchennog busnes, ffeminist a swffragét.[1].
Cafodd ei geni ym Mharis ar 27 Ebrill 1855 a bu farw yn Pierrefonds yn department Oise. Bu'n briod i Antoine-Henri Montrobert, Adrien Guébhard ac yna i Georges de Labruyère ac roedd Roland Guebhard yn blentyn iddi.[2][3][4][5][6][7][8][9]
Tua 1880, dechreuodd Caroline Rémy ymwneud â'r cyhoeddiad sosialaidd Cri du Peuple, gyda Jules Vallès. Bu'n rhaid i Vallès ildio'i rheolaeth o'r papur newydd oherwydd afiechyd. Daeth yn fwy-fwy gwleidyddol asgell chwith ei natur, a daeth yn ffrindiau gyda chyd-newyddiadurwr ffeministaidd, Marguerite Durand, ond yn dilyn gwrthdaro â'r Marcsydd Jules Guesde gadawodd y papur newydd ym 1888. Daliodd ati i sgwennu am bapurau eraill a oedd yn hybu statws a hawliau menywod ac yn amlygu anghyfiawnder cymdeithasol o bob math. Ym 1897, dechreuodd ysgrifennu i bapur newydd ffeministaidd Durand, sef La Fronde.[10]
Fel ymgyrchydd asgell chwith eithafol, roedd Rémy yn cefnogi rhai o'r achosion anarchaidd gan gynnwys amddiffyn Germaine Berton a chymerodd ran yn 1927 i achub yr Eidalwyr anarchaidd Sacco a Vanzetti a gyhuddwyd o lofruddiaeth. Cefnogodd Chwyldro Rwsia ym 1917 ac ym 1921 ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Ffrainc; fodd bynnag, dim ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe adawodd y blaid er mwyn cynnal ei haelodaeth yn y Gynghrair Hawliau Dynol (Ffrainc).
Bu'n aelod o Adran Ffrengig o'r Gweithwyr Rhyngwladol a Phlaid Gomiwnyddol Ffrengig.
Bu'n aelod o Gynghrair Hawliau Dynol am rai blynyddoedd. [11]