Ennomos quercaria | |
---|---|
Darlun allan o lyfr John Curtis: British Entomology; cyfrol 6 | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Geometridae |
Genws: | Ennomos |
Rhywogaeth: | E. quercaria |
Enw deuenwol | |
Ennomos quercaria (Hübner, 1813) | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Geometridae yn urdd y Lepidoptera yw carpiog llwydaidd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy carpiogion llwydaidd; yr enw Saesneg yw Clouded August Thorn, a'r enw gwyddonol yw Ennomos quercaria.[1][2] O ran pryd a gwedd, mae'n eitha tebyg i'r Ennomos erosaria ond ychydig goleuach ei liw.
Mae i'w ganfod gan mwyaf yn ne Ewrop ond ceir cofnodion ohonon hefyd yng ngwledydd Prydain, er na ellir profi'r rhain yn gadarn, sef y naill yn y 19g a'r llall yn ne-ddwyrain Lloegr yn 1992. Mae'n bosib mai gwyfynod wedi'u mewnforio ac yna'u rhyddhau i'r gwyllt oedd y rhain yn hytrach nag enghreifftiau naturiol ohonynt.[3]
Lled adenydd yr oedolyn ar ei anterth ydy 28–35 mm ac fe'i gwelir yn hedfan rhwng Mehefin a Medi.
Mae'r siani flewog yn hoff o fwyta dail y dderwen.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r carpiog llwydaidd yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.