Math | clogfaen |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Llundain |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cannon Street |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5115°N 0.0895°W |
Cod OS | TQ3267580909 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Manylion | |
Deunydd | oolite |
Carreg hynafol yn Ninas Llundain yw Carreg Llundain (Saesneg: London Stone), y dywedir y defnyddiai'r Rhufeiniaid hi fel y man cychwyn i fesur pob pellter yn nhalaith Britannia. Mae wedi'i gosod o fewn fframwaith carreg gyda gril haearn arno ar fur adeilad siop yn Stryd Cannon, yn Ninas Llundain.
Ni wyddys os ydyw'r stori amdani yn wir neu beidio am fod hanes cynnar y garreg yn ddirgelwch, ond mae gan y garreg hanes a thraddodiad hir. Ers canrifoedd mae wedi cael ei ystyried yn ganolog i fodolaeth Llundain ei hun. Byddai pobl yn trafod busnes a thyngu llwon yno. Roedd datganiadau swyddogol yn cael eu cyhoeddi yno hefyd. Dywedir fod Jack Cade, arweinydd gwrthryfel y werin yn erbyn Harri VI o Loegr yn 1450, wedi taro ei gleddyf ar y garreg fel symbol o sofraniaeth pan gyrhaeddodd ei luoedd y ddinas; ar ôl gwneud hynny, cyhoeddodd ei hun yn "Arglwydd y Ddinas".
Symudwyd y garreg o'i safle gwreiddiol yng nghanol Stryd Canon. Dywedir ei fod yn garreg fwy sylweddol yn y gorffennol. Cafodd ei gosod ym mur Eglwys St Swithin a goroesodd fomio'r eglwys honno yn yr Ail Ryfel Byd, heb niwed.
Cysylltir y garreg â diogelwch dinas Llundain ei hun; yn ôl yr hen ddihareb, "So long as the stone of Brutus is safe, so long shall London flourish".[1] Cyfeiriad yw hyn at y chwedl am sefydlu Llundain ('Caerdroea Newydd') gan Frutus, yn ôl yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy; daeth pobl i gredu fod y garreg yn perthyn i'r allor a gododd Brutus yn Llundain, yn ôl y ffug-hanes.
Yn ddiweddar, penderfynwyd dymchwel yr adeilad a bu dyfodol y garreg yn ansicr. Bwriedir ei diogelu dros dro yn Amgueddfa Llundain.