Cas gan fwnci | |
---|---|
Parc Cenedlaethol Lanin, yr Ariannin. | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Pinophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Pinales |
Teulu: | Araucariaceae |
Genws: | Araucaria |
Rhywogaeth: | A. araucana |
Enw deuenwol | |
Araucaria araucana (Molina) K. Koch | |
Cyfystyron | |
Araucaria imbricata |
Conwydden o Dde America sy'n perthyn i deulu'r Araucariaceae yw'r cas gan fwnci neu binwydden Chile (Araucaria araucana). Mae'n gynhenid i ganolbarth Tsile a gorllewin yr Ariannin lle mae'n tyfu mewn pridd folcanig ar lethrau'r Andes a'r cadwyn Nahuelbuta. Mae'n goeden boblogaidd mewn parciau a gerddi yn rhanbarthau tymherus y byd.
Mae gan y goeden aeddfed foncyff hir a syth sy'n cyrraedd uchder o 30-50 medr. Mae coron o ganghennau ar dop y boncyff sy'n debyg i barasol. Mae'r dail yn wyrdd tywyll, pigog a lledraidd. Mae'r coed benywaidd yn cynhyrchu conau mawr a chrwn sy'n cynnwys 200 neu fwy o gnau. Mae conau'r coed gwrywaidd yn hirgul ac maent yn cynnwys paill.
Mae'r goeden yn bwysig i'r bobl Mapuche sy'n gwneud defnydd o'r pren, y resin a'r cnau bwytadwy. Defnyddiwyd y boncyffion i wneud hwylbrennau llongau yn y gorffennol. Coeden genedlaethol Tsile yw'r cas gan fwnci.